Y rôl, oriau a chyflog
Swydd Ddisgrifiad a Manyldeb y Person
Oriau a Lleoliadau
Mae diffoddwyr tân amser llawn neu System Dyletswydd Amser Cyflawn wedi eu lleoli yn y gorsafoedd canlynol: Bangor, Caernarfon, Bae Colwyn, Glannau Dyfrdwy, Caergybi, Y Rhyl a Wrecsam. Ar hyn o bryd mae gennym ni ddiffoddwyr tân llawn amser wedi'u lleoli yn ein gorsafoedd tân Cnewyllyn yn Nolgellau a Phorthmadog fel rhan o dreial.
Mae Diffoddwyr Tân Llawn Amser fel arfer yn gweithio 42 awr yr wythnos ar gyfartaledd a chan ddibynnu ar eu rôl a'u gorsaf maent yn gweithio un o'r partymau sifft canlynol:
- System Ddyletswydd Sifftiau - 2 sifft dydd (8am - 6pm), 2 sifft nos (6pm-8am) a 4 diwrnod 24 awr i ffwrdd o'r gwaith
- System Criwio Dydd - 4 diwrnod ymlaen (8am - 6pm ac ar alwad weddill yr amser am 4 diwrnod) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd
- System Ddyletswydd Gwledig - 4 diwrnod ymlaen (6am - 6pm gyda'r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth ar alwad weddill yr amser yn ystod y 4 diwrnod pe gofynnir a fel y bo'n addas) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd.
- System Cnewyllyn (Treial) – Llun-Gwener (pythefnos 9 diwrnod).
Mae diffoddwyr tân yn cael eu penodi i orsafoedd yn seiliedig ar ofynion gweithredol, swyddi gwag a chyfleoedd datblygu ledled Gogledd Cymru.
Er y gall ymgeiswyr fynegi ffafriaeth ar gyfer system ddyletswydd neu ardal ddaearyddol, ni ellir gwarantu lleoliadau penodol.
Trwy gydol eich gyrfa, bydd gofyn i chi weithio mewn gwahanol orsafoedd neu leoliadau yn ôl anghenion y Gwasanaeth.

Tâl
Y cyflog cychwynnol cyfredol ar gyfer Diffoddwr Tân Llawn Amser mewn datblygiad yw £31,539 y flwyddyn.
Wrth i chi symud ymlaen trwy eich rhaglen hyfforddi a datblygu a chyflawni statws diffoddwr tân cymwys yn llwyddiannus, bydd eich cyflog yn cynyddu i £40,358 y flwyddyn.
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, mae gyrfa gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus, mynediad at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a'r cyfle i adeiladu gyrfa werth chweil yn gwasanaethu cymunedau Gogledd Cymru.
Mae cyfraddau cyflog yn seiliedig ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026 a gallant fod yn ddibynnol ar gytundebau cyflog cenedlaethol yn y dyfodol.

