Cyfle i Ddiffoddwyr Tân gael mynediad at bensiwn heb ei hawlio
Oeddech chi'n Ddiffoddwr Tân Ar-alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru rhwng Ebrill 2000 a Gorffennaf 2000 a gyda gwasanaeth cyn hyn?
Os felly, efallai y bydd gennych hawl i bensiwn neu gynnydd mewn pensiwn presennol.
Roedd y rhai a ddechreuodd gyflogaeth fel diffoddwr tân ar alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar yr adeg hon yn cael eu cwmpasu gan yr un darpariaethau anafiadau ac iawndal â Diffoddwyr Tân amser llawn (Amser Cyflawn).
Fodd bynnag, ar yr adeg hon, nid oeddent yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân.
Ers mis Hydref 2023, gall yr unigolion sy'n bodloni'r meini prawf uchod fod yn gymwys i ymuno â'r cynllun pensiwn wedi'i addasu (a elwir yn gyffredin yn yr Ail Ymarfer Opsiynau) gydag aelodaeth wedi'i ôl-ddyddio i'w dyddiad dechrau gwasanaeth gwreiddiol.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Mae ein tîm Pensiynau wedi cysylltu â phawb a oedd wedi eu heffeithio– ond nid yw pawb wedi ymateb.
Mae'r tîm yn cydnabod y gallai gwybodaeth a ddarparwyd o'r blaen fod wedi bod yn hir ac yn gymhleth, a bod unigolion yn amheus am rannu gwybodaeth bersonol.
Rydym yn annog unigolion i gysylltu â ni'n uniongyrchol, fel y gallwn esbonio pa fudd-daliadau pensiwn y gallai unigolion fod â hawl iddynt.
Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf uchod, neu'n gwybod am eraill sydd yn, cysylltwch â Thîm Pensiynau Gogledd yn uniongyrchol, gan adael eich enw a'ch gwybodaeth gyswllt naill ai trwy:
Ffôn – 01745 352 684 a gadewch neges
Yna bydd aelod o'n Tîm Pensiynau yn cysylltu â chi i helpu ac egluro'r opsiynau pensiwn sydd ar gael os ydynt yn gymwys.
Fel priod i weithiwr cymwys, efallai y bydd gennych hawl i daliad o hyd - cysylltwch â'n tîm pensiynau i ganfod cymhwysedd a chael rhagor o wybodaeth.
Mae'r Tîm Pensiynau hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio mewn gorsafoedd ledled Gogledd Cymru, lle gallwch siarad ag aelod o'r tîm am eich hawl i bensiwn.
Dyddiadau sesiynau galw heibio
26 Tachwedd 26 – Wrecsam 10am- 2pm
27 Tachwedd 26- Yr Wyddgrug 10am- 2pm
2 Rhagfyr 26- Caernarfon 10am- 2pm
8 Rhagfyr 26 – Porthmadog 10am- 2pm
Gallach bwcio ymlaen ar y sesiynau hyn drwy TicketTailor.
Byddwn hefyd yn cynnal bore coffi i ddiffoddwyr tân wedi ymddeol ar Ragfyr 3ydd yng Ngorsaf Dân Y Rhyl 10am - 12pm – mae croeso i chi fynychu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

