Doeth i Danau Gwyllt
Doeth i Danau Gwyllt
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn galw ar ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau gwledig ledled Cymru i chwarae eu rhan wrth leihau’r risg o danau gwyllt yn y dyfodol, wrth iddo lansio ei ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn flynyddol.
Daw’r lansiad yn dilyn un o’r tymhorau tanau gwyllt mwyaf y mae Cymru wedi’i weld. Haf 2026 oedd yr haf poethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru, ac roedd yn cynnwys y mis Gorffennaf sychaf a gofnodwyd erioed, gan greu amodau delfrydol i danau gwyllt ledaenu’n gyflym ar draws cefn gwlad. Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst, cyhoeddodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru bedwar o danau gwyllt mawr ar Fynydd Conwy a Mynydd Llanwynno, ac yng Nghronfa Ddŵr Llangynidr a Rhandir-mwyn.
Mae graddfa, hyd a dwyster y digwyddiadau hyn yn rhoi pwysau digynsail nid yn unig ar y gwasanaethau brys, ond hefyd ar ein hasiantaethau partner, cymunedau lleol, ffermwyr a thirfeddianwyr a oedd ar reng flaen yr ymateb. Derbyniodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru gymorth cydfuddiannol gan ein cymdogion yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Lloegr, ac yn Ne Cymru, anfonwyd cymorth milwrol i helpu i gefnogi gweithrediadau. Profodd cymunedau ledled Cymru aflonyddwch ac ansicrwydd, effeithiwyd ar ardaloedd helaeth o dir ffermwyr a thirfeddianwyr, cafodd cynefinoedd gwerthfawr eu difrodi ac, mewn rhai achosion, profodd teuluoedd golled eiddo dinistriol.
Gan gydnabod bod llosgi dan reolaeth yn parhau i fod yn ffordd bwysig o reoli tir pan gaiff ei wneud yn gyfrifol, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb sy’n bwriadu llosgi y tymor hwn i gydweithio’n agos â’u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, undebau ffermio a phartneriaid eraill.
Gall ffermwyr a thirfeddianwyr losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin rhwng 1 Hydref a 15 Mawrth bob blwyddyn, gyda’r cyfnod wedi ei ymestyn tan 31 Mawrth yn yr ucheldiroedd. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sy’n bwriadu llosgi dan reolaeth sicrhau bod cynllun llosgi ar waith a bod yr holl ragofalon priodol wedi’u hystyried.
Fel rhan o’r ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr o gyngor diogelwch syml ond pwysig:
Rhowch wybod i’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol cyn cynnal llosgiad dan reolaeth (Gogledd Cymru - 01931 522006)
Sicrhewch fod gennych ddigon o bobl ac offer ar gael i reoli’r tân.
Gwiriwch amodau’r tywydd a chyfeiriad y gwynt cyn cynnau unrhyw dân.
Ystyriwch eiddo, ffyrdd, da byw, cynefinoedd a bywyd gwyllt cyfagos.
Os bydd tân yn mynd y tu hwnt i reolaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith a rhowch wybodaeth fanwl a chywir am y lleoliad.
Peidiwch byth â gadael tân heb i rywun fod yn ei wylio.
Sicrhewch fod unrhyw dân wedi’i ddiffodd yn llwyr cyn i chi adael y safle, ac ewch yn ôl i’r ardal i wneud yn siŵr nad oes arwyddion ei fod wedi ailgynnau.
Ynghylch Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn ddull aml-asiantaethol o wella ein dealltwriaeth a’n rheolaeth o’r perygl y mae tanau gwyllt yn ei beri i amgylchedd a chymunedau Cymru.
Caiff ei gyflwyno trwy Siarter Tanau Gwyllt, a’i nod yw adeiladu ar y sylfaen o wybodaeth a phrofiad a enillwyd dros y degawd diwethaf, a hynny gan ystyried perygl hollbresennol newid hinsawdd yn ogystal â chydnabod gwerth annog cymunedau ac unigolion i weithio gyda’i gilydd i ddiogelu'r ardaloedd lle maent yn byw ac yn gweithio ac ardaloedd maent yn ymweld â nhw.
Amcan y bwrdd yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Trwy ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn, mae’r asiantaethau sy’n rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio cynnig gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, a thrwy hynny leihau'r difrod y gallant ei achosi i'n hamgylchedd.

Gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn Cymru a’n cefn gwlad.
Rhwng Ionawr 2022 ac Ionawr 2024, ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 5111 o danau glaswellt, gyda 1232 ohonynt o fewn ardal Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd dull Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru o reoli’r risg o danau gwyllt yn cynnwys tair thema allweddol, gyda phob un wedi’i dylunio er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sydd angen y mwyaf o sylw a’r meysydd a fydd yn gwella’n dealltwriaeth ni o danau gwyllt a’n gallu i gyfyngu ar eu heffaith.
- Partneriaethau - Trwy weithio mewn partneriaeth sy'n esblygu, byddwn yn dod â Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Brys, Sefydliadau Cyhoeddus a Phreifat, Tirfeddianwyr a Defnyddwyr Tir at ei gilydd i reoli ac i ddatblygu ein tirwedd.
- Gwydnwch Amgylcheddol a Chymunedol - Byddwn yn cyfrannu at reoli ein tirwedd er mwyn diogelu bywyd gwyllt; coedwigaeth a bywoliaethau; i wella lles, iechyd ac amwynder, i hwyluso cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac i greu ymdeimlad o le a pherchnogaeth gymunedol.
- Atal ac Amddiffyn - Byddwn yn gweithredu ystod amrywiol o dechnegau rheoli er mwyn lleihau effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau a'r dirwedd yng Nghymru.

Adnoddau Ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt.
Er gwaethaf ein llwyddiannau ni yn y gorffennol, mae tanau gwyllt ledled Cymru yn parhau i fod yn berygl parhaol i'n hamgylchedd, i’n heconomi ac i’n cymunedau, a thros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gweld arwyddion cynnar bod y gostyngiad yn nifer yr achosion yn arafu, gan awgrymu y gallem fod angen dull newydd o weithredu i ddiogelu ein cymunedau.
Nod Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, gyda’r dull aml-asiantaethol o ymdrin ag ymwybyddiaeth tanau gwyllt, yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru.
Dyma pam rydym wedi datblygu deunyddiau ymgyrch gall holl bartneriaid, cyfranwyr a rhanddeiliaid yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt gael gafael yn rhwydd:
- Pob Datganiad i'r Wasg (yn y Gymraeg a’r Saesneg) a gyhoeddwyd i gefnogi'r ymgyrch.
- Negeseuon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw.
- Delweddau i chi lawrlwytho a’u defnyddio ar Facebook, Twitter, Instagram i gyd-fynd â'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol a ysgrifennwyd ymlaen llaw – neu i gyd-fynd ag unrhyw negeseuon eraill sy’n benodol i’r asiantaeth yr ydych eisiau eu postio i gefnogi'r ymgyrch.
- Pob ffotograff a fideo o ddigwyddiadau y gellid eu defnyddio i gefnogi'r ymgyrch.
- Unrhyw ddeunydd briffio a ddatblygir i’n cynorthwyo wrth gyfleu ein negeseuon i'n staff rheng flaen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch dull cyfathrebu’r ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt, neu os hoffech drafod unrhyw ddeunyddiau ychwanegol a allai fod yn fuddiol i'r ymgyrch, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.
Diolch yn fawr,

