Sbarc
Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyflwyno Sbarc!
Mae Sbarc yn helpu i rannu negeseuon â phlant ifanc am y peryglon o chwarae â thân a sut y mae cadw'n ddiogel yn eich cartref ac yn eich cymuned.
Yn ystod haf 2019, daeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ynghyd i gynllunio cymeriad a fyddai’n helpu i rannu'r negeseuon o ran Diogelwch Cymunedol y Gwasanaethau Tân ac Achub. Y nod oedd datblygu cymeriad a fyddai'n dal dychymyg plant ac aelodau o'r cyhoedd, ac yn eu haddysgu am negeseuon allweddol yn ymwneud ag Atal, Canfod, Dianc a Lleihau Tanau Bwriadol.
Enwyd y cymeriad trwy ymgynghori â'r cyhoedd mewn amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus yn ystod 2019, lle gofynnwyd i dros 250 o blant ddewis o blith yr enwau canlynol, sef Fflach, Fflam neu Sbarc. Roedd “Sbarc” yn ffefryn amlwg gyda dros 142 o bleidleisiau.
Mae Sbarc yn ymddangos ledled ein deunydd addysg a marchnata a gellir ei weld mewn amryw o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd gan ddarparu cyngor ar ddiogelwch. Rydym yn gobeithio bod Sbarc yn helpu plant a'u rhieni trwy ein cynorthwyo i hyrwyddo'r Cod Tân Gwyllt, Diogelwch yn y Cartref, Diogelwch ar y Ffyrdd, Diogelwch Dŵr, a llawer mwy.”
Cliciwch isod i lawrthlwytho gweithgareddau Sbarc.
Chwilair Diogelwch Trydan Sbarc

