Diogelwch Dŵr
Diogelwch Dŵr
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pawb i fwynhau amser yn y dŵr, ar y dŵr ac o gwmpas y dŵr yn ddiogel - boed gartref neu ar wyliau. Yn anffodus, mae bywydau'n cael eu colli bob blwyddyn mewn dyfroedd arfordirol a mewndirol, ond gallai llawer o'r marwolaethau hyn fod wedi cael eu hosgoi.
Peryglon dŵr
- Mae'n oer iawn a gallai achosi sioc dŵr oer neu hypothermia.
- Efallai y bydd ceryntau cudd a allai ei gwneud hi'n anodd nofio yn ôl i'r lan.
- Gall fod yn anodd dod allan e.e. glannau serth llithrig.
- Gall fod yn ddyfnach nag y mae'n edrych a gall fod yn anodd dyfalu dyfnder y dŵr.
- Yn y dŵr gall fod sbwriel neu falurion yn cuddio e.e. trolïau siopa, gwydr wedi torri.
- Os ydych chi'n nofio mewn afonydd, chwareli neu gronfeydd dŵr ni fydd achubwyr bywyd o gwmpas i helpu.
- Gall y dŵr fod wedi’i lygru ac achosi salwch.
Pethau i'w cofio:
Gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng
Cofiwch 'Ffonio. Arnofio. Taflu'.

- Ffoniwch 999 am help os oes rhywun mewn trafferth yn y dŵr. Peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr i geisio eu hachub. Gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ydych ar yr arfordir.
- Dywedwch wrthynt am arnofio ar eu cefn.
- Taflwch rywbeth sy'n arnofio iddyn nhw. Gall hyn fod yn offer achub bywydau fel rhaff daflu, ond gall unrhyw beth sy'n arnofio helpu i achub bywyd.
Arnofiwch i Fyw
Os ydych chi'n syrthio i mewn i ddŵr yn annisgwyl, cofiwch 'Arnofiwch i Fyw':
- Pwyswch eich pen yn ôl, gyda’ch clustiau o dan y dŵr
- Ymlaciwch, ac anadlu yn ôl yr arfer
- Symudwch eich dwylo i'ch helpu i arnofio
- Lledaenwch eich breichiau a'ch coesau
- Pan fydd eich anadl dan reolaeth, galwch am help neu nofiwch i fan diogel
Gallai achub eich bywyd.
Parchwch y dŵr. Mae'n gryfach nag ydych chi'n meddwl
Mae'r rhan fwyaf o foddi damweiniol yn y DU yn digwydd mewn dyfrffyrdd mewndirol fel afonydd, camlesi, llynnoedd, cronfeydd dŵr, a chwareli. Gall hyd yn oed dŵr tawel fod â cheryntau cryf, tymheredd oer, a pheryglon cudd.
Mae mwy o wybodaeth ac adnoddau ar gael fel rhan o ymgyrch Parchu'r Dŵr gan y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol (NWSF). Crëwyd yr ymgyrch genedlaethol hon gan sefydliadau sy’n aelodau o’r fforwm gan gynnwys Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân. Gellir defnyddio adnoddau a gwybodaeth trwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddarganfod mwy am Barchu'r Dŵr yma.
Gall dŵr oer ladd
Gall sioc dŵr oer effeithio ar eich gallu i nofio. Hyd yn oed yn yr haf, gall y dŵr edrych yn ddeniadol ond gall fod yn oer iawn o hyd.
Hyd yn oed os ydych chi'n nofiwr cryf, gall neidio i'r dŵr i oeri arwain at sioc dŵr oer, a all arwain at foddi. Ewch i mewn i’r dŵr yn araf i addasu yn hytrach na neidio i mewn.
Gallwch ddysgu mwy am sioc dŵr oer ar wefan Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân.
Arhoswch yn ddiogel ger dŵr agored
Nid oedd gan y rhan fwyaf o bobl sy’n boddi unrhyw fwriad i fynd i mewn i'r dŵr, fel pobl yn cerdded ac yn llithro, baglu a chwympo.
Gofalwch beidio â llithro wrth fynd am dro neu redeg ar lan y dŵr. Gall glannau afonydd a llwybrau arfordirol fod yn ansefydlog ar ôl tywydd sych neu wlyb iawn.
Cadwch at y llwybrau iawn a chadwch yn glir o'r ymyl. Os oes gennych amheuon, dilynwch lwybr gwahanol.
Peryglon cudd
Cadwch chi eich hun a'ch ffrindiau’n ddiogel. Gall neidio i mewn i ddŵr fod yn beryglus.
Gall dyfnder y dŵr newid a gallai malurion fod wedi’u cuddio dan y dŵr. Bob blwyddyn mae angen achub pobl neu mae pobl yn dioddef anafiadau difrifol, neu hyd yn oed yn marw, oherwydd eu bod yn neidio i mewn i ddŵr heb wybod beth i’w ddisgwyl.
Dydy alcohol a dŵr ddim yn cyd-fynd

