Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ein Tîm Cyfryngau

Ein Tîm Cyfryngau

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn credu mewn ymwneud agored, gonest, tryloyw a chyson â’r cyfryngau ac rydym yn cydnabod ac yn croesawu’r rôl allweddol y mae’r cyfryngau yn ei chwarae wrth helpu i drosglwyddo negeseuon hanfodol i rybuddio neu roi gwybodaeth yn ogystal â negeseuon atal a diogelu.

Mae Tîm Cyfryngau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnwys gweithwyr cyfathrebu proffesiynol cymwys sydd â blynyddoedd o brofiad mewn rheoli amlgyfrwng, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, a chyfathrebu mewnol ac allanol.

Mae ein gwaith gyda’r cyfryngau traddodiadol ac ar draws ein sianeli digidol yn hanfodol ac yn galluogi’r Gwasanaeth i ymgysylltu â’r cyhoedd i ddarparu gwybodaeth amserol a chywir am ddigwyddiadau yn ogystal â chyfleu negeseuon atal pwysig.

Mae hefyd yn hanfodol fel rhan o’n hymdrechion i rybuddio a hysbysu ein cymunedau yn ystod argyfwng.

Mae’r tîm yn ateb nifer o ymholiadau gan y cyfryngau yn ddyddiol ac felly, yn union fel mewn ystafell newyddion, rhaid iddo flaenoriaethu ei lwyth gwaith.

Bydd ymholiadau gan y cyfryngau yn cael eu blaenoriaethu gan aelodau’r Tîm Cyfryngau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol ac yn seiliedig ar sgyrsiau gyda’r newyddiadurwr ynghylch terfynau amser, ongl y stori a’i hamlygrwydd, yr effaith bosibl ar enw da yn ogystal â difrifoldeb y digwyddiad ac unrhyw negeseuon diogelwch pwysig y byddai arnom eisiau eu cyfleu i’r cyhoedd.

Mae gwybodaeth yn cael ei rhyddhau at ddiben penodol bob amser, gan gadw o fewn y fframwaith GDPR.

 

Beth yw ymholiad cyfryngau?

Ymholiad gan newyddiadurwr proffesiynol, hyfforddedig sy’n gweithio ar ran sefydliad cydnabyddedig yn y cyfryngau. Bydd y sefydliad cydnabyddedig yn y cyfryngau yr ydych yn gweithio iddo yn cael ei reoleiddio gan god moeseg cydnabyddedig ar gyfer cyfryngau print, ar-lein neu ddarlledu.

Yn anffodus, ni allwn ymateb i newyddiadurwyr sy’n fyfyrwyr nac ychwaith i flogwyr.

 

Sut mae gwneud ymholiad cyfryngau?

Cyn cyflwyno ymholiad, edrychwch ar sianeli newyddion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy ymweld ag adran newyddion ein gwefan www.tangogleddcymru.llyw. cymru neu ein tudalennau Facebook ac X.

Mae’r sianeli hyn yn cael eu diweddaru’n rheolaidd gydag eitemau sydd o ddiddordeb i’r cyfryngau, felly os oes gennym unrhyw beth i’w ddweud am ddigwyddiad, mae’n debygol y
bydd yno eisoes.

Os nad ydyw, gallwch anfon e-bost at Dîm Cyfryngau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod oriau swyddfa ar press@northwalesfire.gov.wales.


Nodwch, os yw’r wybodaeth yr ydych yn holi amdani eisoes ar ein gwefan neu ar ein cyfryngau cymdeithasol, mae’n bosibl na fyddwch yn cael ymateb, felly mae’n werth gwirio ymlaen llaw.

Dyma ein cyfryngau cymdeithasol corfforaethol:
Facebook: @Northwalesfireservice
X: @NorthWalesFire
Instagram: @northwalesfire,
LinkedIn: @Northwalesfireandrescueservice


Ochr yn ochr â’r cyfrifon corfforaethol mae gan rai gorsafoedd lleol eu cyfrifon eu hunain nad ydynt yn cael eu monitro’n rheolaidd gan Gyfathrebiadau Corfforaethol.


Beth fydd yn digwydd i’m hymholiad cyfryngau?

Bydd ein Tîm Cyfryngau yn delio â’ch ymholiad yn ystod oriau swyddfa.
Darperir y gwasanaeth hwn gan y Tîm Cyfathrebiadau Corfforaethol ehangach, fel un o nifer o swyddogaethau a reolir gan Gyfathrebiadau Corfforaethol.

Pan fo angen ymateb, ein nod yw gwneud hynny o fewn un diwrnod gwaith, yn amodol ar y swyddogion sydd ar gael/patrymau sifft. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i derfynau
amser go iawn.

Dyma’r e-bost ar gyfer y Tîm Cyfryngau:  press@northwalesfire.gov.wales

 


Sut ydw i’n cyflwyno ymholiad cyfryngau y tu allan i’r oriau hyn?

Y tu allan i oriau, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Swyddfeydd y Wasg Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaeth ymholiadau i’r wasg ar y cyd yn benodol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau difrifol.

Nid yw hwn yn estyniad o’n gwasanaeth arferol, a’r unig ymholiadau y bydd ein Swyddogion y Wasg Ar Alwad yn delio â nhw yw ymholiadau sy’n ymwneud â digwyddiadau mawr/digwyddiadau sy’n cael blaenoriaeth.

Bydd Swyddogion y Wasg Ar Alwad yn cyhoeddi gwybodaeth ar wefan a/neu sianeli cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru / Heddlu Gogledd Cymru. Cynghorir newyddiadurwyr i wirio’r sianeli hyn.

Bydd pob ymholiad arall yn cael ei drin yn ystod oriau swyddfa.

Peidiwch â chysylltu â Swyddogion y Wasg yn unigol y tu allan i oriau swyddfa. Ni fydd Swyddogion y Wasg Ar Alwad yn darparu datganiadau i’r cyfryngau ar faterion nad ydynt yn rhai brys neu faterion y gellir delio â nhw yn ystod oriau swyddfa.


Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru


Nid yw rhif y wasg bellach mewn defnydd. E-bostiwch ct.control@northwalesfire.gov.wales gydag unrhyw ymholiadau tu allan i oriau ynghylch unrhyw ddigwyddiadau.

Peidiwch a chysylltu â’r Ystafell Rheoli gydag ymholiadau rhagdybiol ynghylch pam bod adnoddau mewn ardal penodol neu o ran digwyddiadau ar raddfa lai.Sylwch fod gan staff rheoli gyfrifoldeb ar draws y maes gwasanaeth a bydd angen iddynt blaenoriaethu eich ymholiad yn erbyn gwaith parhaus arall.

Gallwch hefyd e-bostio eich ymholiad at press@northwalesfire.gov.wales Byddwn yn ymdrin ag ef yn ystod y diwrnod gwaith nesaf. 

Nodwch nad yw blwch e-bost y Tîm Cyfryngauyn cael ei fonitro’n rheolaidd y tu allan i oriau ac na ddylech ddisgwyl ymateb drwy e-bost y tu allan i oriau swyddfa.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen