Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad tanau gwyllt

Diweddariad tanau gwyllt

Postiwyd

Mae'r cyfnod diweddar o dywydd sych, braf wedi arwain at gyfnod eithriadol o brysur i staff yn mynd i'r afael â thanau gwyllt ar draws Gymru dros yr wythnosau diwethaf.

Mae Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn diolch i staff ac yn apelio ar ein cymunedau i helpu i atal tanau sydd allan o reolaeth.

Dywedodd hi:

“Yng Ngogledd Cymru, mae ein criwiau tân wedi mynychu dros 170 o danau glaswellt ac eithin ers mis Ionawr, gyda dros 40 yn cael eu cyfri fel tanau gwyllt.  Mae llawer o'r tanau gwyllt hyn wedi gofyn am bresenoldeb criw ac nifer o swyddogion am oriau ar y tro.

“Mae ein staff ystafell reoli hefyd wedi delio â chynnydd sylweddol mewn galwadau, gan ddelio â hysbysiadau o losgi dan reolaeth a galwadau gan aelodau o'r cyhoedd sy'n adrodd am y tanau hyn sy'n aml yn weledol iawn.

“Diolch o galon i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith hyn am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad.

“Rydym yn parhau i rannu negeseuon pwysig ynghylch pryd y dylai llosgi ddigwydd, a rhannu negeseuon diogelwch am sut i atal tanau glaswellt ac eithin trwy'r ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt.

“Helpwch i atal tanau gwyllt - peidiwch â chynnau tanau gwersylla, a defnyddiwch farbeciw lle mae arwyddion yn dweud y gallwch wneud hyn yn unig. Peidiwch byth â gadael y barbeciw heb oruchwyliaeth, a gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i ddiffodd yn llawn cyn i chi adael.  Cliriwch boteli, gwydrau, ac unrhyw wydr sydd wedi torri i ffwrdd i'w hosgoi cynnau tân yn yr haul.

“Rydym hefyd yn atgoffa tirfeddianwyr bod llosgi grug a glaswellt gyda Chynllun Llosgi wedi dod i ben ar 15 Mawrth (31 Mawrth ar yr ucheldir).  Bydd unrhyw un sy'n llosgi y tu allan i Gyfnod y Cynllun Llosgi (Tachwedd i Fawrth) yn cael ei erlyn a gallai effeithio ar eu taliadau fferm sengl gan Lywodraeth Cymru.

“Yn ogystal, byddwn yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am danau bwriadol i alw CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

“Os ydych chi'n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.

“Mae cymryd gofal ychwanegol a chadw at y rheoliadau hyn yn hanfodol i atal tanau heb eu rheoli ac amddiffyn ein cymunedau."

I gael rhagor o wybodaeth yn ac o amgylch llosgi dan reolaeth ac ymwybyddiaeth o danau gwyllt, ewch i:

Doeth i Danau Gwyllt - Eich Cadw Chi'n Ddiogel - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen