Datganiad am Post Cyfryngau Cymdeithasol
PostiwydNeges gan Prif Swyddog Tân Dawn Docx:
"Rwyf wedi cael gwybod am post hanesyddol ar y cyfryngau cymdeithasol yr honnir iddi gael ei gwneud gan ein Dirprwy Brif Swyddog Tân.
"Yn dilyn adolygiad rhagarweiniol o’r post dan sylw, cymerais y cam rhagofalus neithiwr o atal y Dirprwy dros dro tra bod ymchwiliad llawn a theg yn cael ei gynnal.
"Rwyf am roi sicrwydd i'n cymunedau, ein rhanddeiliaid a'n cydweithwyr ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal y safonau uchaf o broffesiynoldeb, uniondeb ac ymddiriedaeth yn ein Gwasanaeth.
"Mae tryloywder ac atebolrwydd wrth wraidd popeth a wnawn, a byddaf yn mynd i’r afael â’r mater hwn gyda’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu.
"Ar hyn o bryd, ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach wrth inni ddilyn y broses briodol."