Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill
Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill
PostiwydMae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Gynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol ar gyfer 2025-26.
Dyma'r ail gynllun gweithredu blynyddol sy'n cynnwys amcanion a fydd yn parhau i gyflawni yn erbyn Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC) 2024-29.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx: "Un o amcanion allweddol gwasanaethau tân ac achub Cymru yw lleihau risg yn barhaus ac yn gynaliadwy a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau.
“Nod Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC) yw nodi risgiau sy'n wynebu'r gymuned ac mae'n disgrifio sut y bydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal tanau ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.
“Ym mis Gorffennaf 2024 cyhoeddwyd ein CRRC pum mlynedd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a'n Cynllun Gweithredu ar gyfer 2024-25, a oedd yn cynnwys amcanion gwella a llesiant i'n galluogi i gyflawni yn erbyn ein hamcanion hirdymor. Gellir cyrchu'r ddau gynllun hyn yma.
“Rydym nawr am i'n cymunedau gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol ar gyfer 2025-26.
“Mae'r ymgynghoriad hwn yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru ac felly mae gwrando ar eich barn yn bwysig i ni.
“Rydym eisiau gwybod a ydych yn credu ein bod wedi nodi'r risgiau mwyaf priodol ac a fydd ein cynlluniau a'n hamcanion yn bodloni nodau ein pum egwyddor..”
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: "Mae adborth gan y rhai sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â'n rhanbarth yn bwysig iawn - rydym am wybod beth yw eich barn am ein cynlluniau cyn i ni fel Awdurdod Tân ac Achub wneud unrhyw benderfyniadau terfynol.
“Felly, cymerwch amser i gwblhau'r holiadur ymgynghori.
“Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf gwybodus y gallwn fod fel y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i gadw ein cymunedau mor ddiogel â phosibl..”
Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 21 Hydref 2024 ac yn cau am hanner nos ar 16 Rhagfyr 2024.
I gymryd rhan, ewch i www.tangogleddcymru.llyw.cymru i lenwi'r holiadur ac i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ymateb i'r cwestiynau. Dolen uniongyrchol yma.
Gallwch ein ffonio neu anfon neges destun atom ar 07717 516 187, neu e-bostio EinPumEgwyddor@tangogleddcymru.llyw.cymru os byddai'n well gennych fformat hawdd ei ddeall neu gopi papur o'r holiadur, y gallwch ei ddychwelyd atom yn rhad ac am ddim.
Mae yna far offer cynorthwyol ar y wefan gyda swyddogaeth darllen yn uchel, testun mwy ac i weld yr wybodaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd ychwanegol.
Dilynwch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf:
X/Twitter: @NorthWalesFire
Facebook: @Northwalesfireservice
Neu chwiliwch am 'Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru' ar LinkedIn
Yr Awdurdod Tân fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol - bydd manylion y cyfarfod penderfynu ar gael ar www.tangogleddcymru.llyw.cymru, ynghyd â chofnod o'r trafodion.