Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Cofrestru fy Offer
PostiwydWrth eich bodd gyda’ch peiriant? Cofiwch ei gofrestru ar www.registermyappliance.org.uk
Gallai aelwydydd fod yn colli allan ar wybodaeth ddiogelwch bwysig am nad ydynt wedi cofrestru dros 40 miliwn o beiriannau mawr sy'n cael eu defnyddio yn eu cartrefi - er eu bod yn fodlon cyfaddef bod y peiriannau hyn wedi trawsnewid eu bywydau a’u bod yn dibynnu arnynt yn fawr.
Amcangyfrifir bod 133 miliwn o oergelloedd, peiriannau golchi a ffyrnau yn cael eu defnyddio mewn cartrefi yn y DU[1], ond nid yw bron i draean o gartrefi erioed wedi cofrestru eu peiriannau mawr, neu prin iawn yw’r rhai sydd wedi gwneud,[2] gan olygu ei bod hi'n anodd iawn dod o hyd iddynt os oes angen atgyweiriad am resymau diogelwch.
Er ein bod, fel cenedl, yn amlwg yn dibynnu ar ein peiriannau, mae’n syndod faint o raniadau sydd rhwng y cenedlaethau o ran blaenoriaethau. Canfu arolwg newydd gan OnePoll[3] i Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Offer Domestig (AMDEA) bod dwy ran o dair (68%) o’r genhedlaeth a aned wedi’r ail ryfel byd (y ‘baby boomers’) yn dweud na allent fyw heb eu peiriant golchi, ac roedd Cenhedlaeth X yn ddigon tebyg (67%). Ond, roedd y mileniaid yn wahanol, gyda 56% yn rhoi gwerth cyfartal ar eu peiriant golchi a'u hoergell.
Roedd yna gytuno rhwng y cenedlaethau ynghylch yr effaith y mae peiriannau golchi yn ei chael ar fywyd domestig, gyda mwy na’u hanner (58%) yn cytuno ei bod yn arwyddocaol. Gwelwyd hefyd fod gwerth mawr yn cael ei roi ar sugnwyr llwch, peiriannau golchi llestri, oergelloedd a rhewgelloedd.
Ac fe wnaeth chwarter y menywod a holwyd ganmol un peiriant bach newydd - y ffrïwr aer - am wella bywyd yn y gegin.
Heddiw, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Cofrestru Fy Offer (20-26 Ionawr 2025) ac yn annog pob cartref i gofrestru'r peiriannau hyn, boed yn fach neu'n fawr, i sicrhau bod eu brandiau'n gwybod ble i ddod o hyd iddynt. P’un ai yw peiriannau wedi’u prynu o’r newydd, wedi’u gosod ers tro, wedi’u cael ‘bron yn newydd’ neu’n ail law, mae cofrestru’n hanfodol i helpu i sicrhau’r oes ddiogel hiraf bosibl.
Esboniodd Kevin Jones, y Pennaeth Atal: “Rydym i gyd yn gwerthfawrogi sut mae peiriannau wedi newid ein bywydau, ac mae’n gyffrous gweld sut mae technoleg glyfar ac effeithlon yn gwneud tasgau yn haws. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod y peiriannau hyn rydym yn eu defnyddio bob dydd wedi’u cofrestru. Mae’n gyflym ac mae’n rhad ac am ddim, gan olygu mai chi fydd y cyntaf i wybod os bydd angen atgyweiriad am resymau diogelwch. Bydd treulio ychydig funudau yn sicrhau y gallwch chi fwynhau manteision y peiriant heb aberthu eich diogelwch.”
Datgelodd yr arolwg fod nwyddau a oedd unwaith yn cael eu hystyried yn eitemau moethus bellach yn cael eu hystyried yn angenrheidiol i fywyd bob dydd gan genedlaethau iau. Roedd dwy ran o dair o Genhedlaeth Z yn ystyried haearn gwallt (tongs), peiriannau sychu dillad a ffrïwyr aer fel nwyddau angenrheidiol yn hytrach nag eitemau moethus. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, mae bron i hanner (47%) Cenhedlaeth X (dim ond dwy ‘genhedlaeth’ yn hŷn) yn ystyried y peiriant sychu dillad dibynadwy yn rhywbeth moethus.
Mae Cenhedlaeth X wrth eu bodd â thechnoleg glyfar ac maent fwy na phum gwaith yn fwy tebygol na'u rhieni o'i hystyried yn nodwedd bwysig wrth brynu peiriant newydd.
Un peth sy’n peri boddhad yw bod pawb, waeth bynnag eu hoedran, yn ymwybodol o fanteision effeithlonrwydd ynni mewn peiriannau. Dywedodd cyfran cyn uched ag 80% o'r holl oedolion fod effeithlonrwydd ynni yn ffactor pwysig wrth brynu peiriant newydd, gyda 65% yn gwirio ei nodweddion gwyrdd cyn ffarwelio â’u harian parod.
Fodd bynnag, er bod agweddau'n esblygu o ran sut rydym yn ystyried ein peiriannau, mae pobl yn dal i fod ar ei hôl hi - ac felly'n dangos angen i newid eu ffyrdd - o ran yr elfen o ddiogelwch ychwanegol a ddarperir trwy gofrestru. Mae galw peiriannau cartref yn ôl yn brin ond gall problemau gyda'r offer ddatblygu dros amser a gall addasiad syml, rhad ac am ddim yn y cartref gan beiriannydd cymwys sicrhau oes hirach a mwy diogel i beiriannau. Ond, yn wahanol i'n ceir lle mae cofnodi manylion yn orfodol, mae’n parhau i fod yn amhosibl olrhain nifer helaeth o'r eiddo gwerthfawr hyn am nad ydynt wedi'u cofrestru.
Mae porth Cofrestru Fy Offer AMDEA yn darparu ateb cyflym a hawdd sy'n cynnig mynediad ar-lein i fwy na 70 o frandiau blaenllaw, gyda'r mwyafrif yn derbyn cofrestriadau ar gyfer peiriannau newydd a hŷn.
___________________________
[1] Ffigurau Llywodraeth y DU: Energy Consumption in the UK (ECUK): Final Energy Consumption Tables. Mae'r ffigurau a ddefnyddir ar gyfer oer, gwlyb (gan gynnwys
hen beiriannau golchi a sychu), hobiau trydan a ffyrnau trydan.
[2] YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 2096 o oedolion. Gwnaethpwyd y gwaith maes rhwng 20 a 21 Rhagfyr 2023. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigyrau wedi'u pwysoli ac yn gynrychioliadol o holl oedolion Prydain (18+ oed).
[3] OnePoll. Cyfanswm maint y sampl oedd 2000 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 18 a 23 Rhagfyr 2024. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigyrau wedi'u pwysoli ac yn gynrychioliadol (ar sail oedran/rhywedd/rhanbarth) o holl oedolion Prydain (18+ oed).