Hysbysiad Preifatrwydd Diogel ac Iach
Mae defnyddio a datgelu data personol yn cael ei lywodraethu yn y Deyrnas Unedig gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf). Er mwyn darparu ein gwasanaethau’n effeithiol efallai y bydd angen i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) brosesu eich data personol.
Drwy ofyn i’r gwasanaeth gynnal Archwiliad Diogel ac Iach yn eich cartref rydych yn deall y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu at y diben hwn.
Pam fod angen i ni brosesu eich gwybodaeth?
Mae gennym rwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaeth Tân ac Achub 2004 sy'n cynnwys hyrwyddo diogelwch tân trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor a diogelu. Er mwyn bodloni'r gofynion hyn rydym yn cynnig Archwiliadau Diogel ac Iach am ddim i unigolion. Mae'n bosibl bod y gwiriad wedi'i gychwyn gennych chi neu gan aelod o'r teulu. Gall hefyd fod o ganlyniad i ddigwyddiad yn eich ardal neu atgyfeiriad gan yr awdurdod lleol neu asiantaeth arall. Mae angen defnyddio gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu nodi a hwyluso'r gwiriadau hyn.
Pa fathau o ddata personol rydym yn eu prosesu?
Er mwyn ymweld â chi bydd angen i ni brosesu eich enw, cyfeiriad ac unrhyw fanylion cyswllt eraill. Wrth ddarparu ein cyngor efallai y byddwn yn cofnodi gwybodaeth bellach amdanoch chi neu'ch teulu y byddwch yn ei ddweud wrthym, gallai hyn gynnwys manylion unrhyw anableddau neu gyflyrau meddygol a allai effeithio ar y cyngor a ddarparwn ar gyfer camau i'w cymryd pe bai tân. Mae'r Arhchwiliad Diogel ac Iach hefyd yn cynnwys cwestiynau am bynciau fel llithro, baglu a chwympo, lles ac unrhyw fater arall sy'n ymwneud â ffordd o fyw a allai effeithio ar eich diogelwch personol.
Ble rydyn ni'n cael y data personol rydyn ni'n ei brosesu?
Efallai y byddwch chi, aelodau o'ch teulu neu asiantaethau atgyfeirio eraill yn darparu gwybodaeth.
Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol?
Mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data at y diben hwn i’w chael yn Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU sy’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo. Mae hyn oherwydd ei bod yn ofynnol i ni ddarparu cyngor diogelwch tân. Mae unrhyw ddata categori arbennig rydym yn ei gasglu hefyd yn cael ei brosesu o dan Erthygl 9 2(g) budd cyhoeddus sylweddol ar sail Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Pa fesurau diogelwch rydym yn eu defnyddio wrth brosesu eich data personol?
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau prosesu data o ddifrif a dim ond yn cofnodi’r swm lleiaf o wybodaeth sy’n angenrheidiol at y diben gofynnol. Pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei chasglu'n ysgrifenedig, caiff ei chadw hyd nes y caiff ei throsglwyddo i'n system gyfrifiadurol cyn cael ei dinistrio'n ddiogel. Mae gwybodaeth a gedwir ar ein systemau cyfrifiadurol yn cael ei diogelu gyda
Pa ddatgeliadau a wnawn o’ch data personol?
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’r data sydd gennym ag asiantaethau eraill y credwn sydd fwyaf priodol i’ch cynorthwyo yn seiliedig ar ein hasesiad. Gall hyn gynnwys yr awdurdod lleol a all gynorthwyo unigolion gyda chwympiadau yn y cartref, gofal cymdeithasol a materion safonau masnach. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru lle teimlwn fod angen iddynt ddarparu cefnogaeth neu gymorth ynghylch trosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, bregusrwydd neu ddiogelu.
Yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn annhebygol o rannu eich gwybodaeth bersonol a byddwch yn cael gwybod am atgyfeiriad os byddwn yn gwneud hynny, oni bai nad yw er eich lles chi i wneud hynny wrth ystyried eich diogelwch chi neu eraill.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd unrhyw gofnodion papur a gesglir yn ystod Archwiliad Diogel ac Iach yn cael eu dinistrio'n ddiogel unwaith y bydd y wybodaeth wedi'i throsglwyddo i'n systemau cyfrifiadurol. Bydd ein systemau cyfrifiadurol yn cynnal y data hwn cyhyd ag y bo angen i gyflawni ein rhwymedigaethau.
Beth yw eich hawliau dros eich data personol rydym yn ei brosesu, a sut gallwch chi eu harfer?
Esbonnir eich hawliau yn llawn yn ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y gallwch ddod o hyd iddo yma
Sut gallaf godi pryder am y defnydd o fy nata personol?
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut rydym yn prosesu eich data personol.
Post:
Swyddog Diogelu Data
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
sir Ddinbych
LL 17 0JJ
E-bost: SDD@tangogleddcymru.llyw.cymru
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon mae gennych yr hawl i gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth
Comisiynydd Gwybodaeth
Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau a gellir cysylltu ag ef yn y ffyrdd a ganlyn:
Trwy'r post:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
sir Gaer
SK9 5AF
Ar-lein yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Dyddiad y diweddariad diwethaf
Gwnaethom ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar13 Chwefror 2025. Rydym yn adolygu’r polisi preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn ei ddiweddaru os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth ynddo’n newid.