Hysbysiad Preifatrwydd Cadetiaid Tân
Mae defnyddio a datgelu data personol yn cael ei lywodraethu yn y Deyrnas Unedig gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf). Er mwyn darparu ein gwasanaethau’n effeithiol efallai y bydd angen i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) brosesu eich data personol.
Mae Cadetiaid Tân Cenedlaethol yn rhaglen addysgol hirdymor gydnabyddedig sy’n agored i bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed. Mae amrywiad yn GTAGC gan ein bod wedi cytuno i ehangu'r bwlch oedran i dderbyn rhai o 11 oed.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n cynnwys gwaith tîm, datrys problemau a chyfathrebu ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn. Mae'r rhaglen yn gwella gwerthoedd dinasyddiaeth trwy ystod amrywiol o weithgareddau. Bydd cadetiaid yn rhyngweithio o fewn eu cymuned gan gyflwyno neges diogelwch tân ac atal a chanlyniadau cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddau megis camddefnyddio'r system 999 a llosgi bwriadol.
Pam fod angen i ni brosesu eich gwybodaeth?
Mae gennym rwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaeth Tân ac Achub 2004 sy'n cynnwys hyrwyddo diogelwch tân trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor a diogelu. Er mwyn bodloni’r gofynion hyn rydym yn cynnig cynllun cadetiaid i addysgu ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y gymuned. Er mwyn rheoli gweinyddiad y cynllun cadetiaid yn ddiogel byddwn yn casglu ac yn cadw gwybodaeth bersonol.
Pa fathau o ddata personol rydym yn eu prosesu?
Byddwn yn cadw manylion personol y cadét gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dyddiad geni a delwedd. Byddwn hefyd yn cadw rhywfaint o ddata ynghylch crefydd, ethnigrwydd ac unrhyw gyflyrau meddygol gan gynnwys unrhyw anabledd. Er mwyn rheoli ein hymgysylltu efallai y byddwn hefyd yn prosesu manylion unrhyw anghenion addysgol neu ymddygiadol arbennig. Er mwyn cyflwyno’r rhaglen byddwn yn cadw cofnod o’r gweithgareddau yr ymgymerir â hwy (a all gynnwys ffotograffau neu ffilm symudol) a meintiau dillad ar gyfer gwisg ysgol ac unrhyw offer amddiffynnol. Gan fod y cynllun hwn yn ymwneud â phobl ifanc byddwn hefyd yn prosesu manylion cyswllt rhiant/gwarcheidwad/gwarcheidwaid yr unigolyn.
Ble rydyn ni'n cael y data personol rydyn ni'n ei brosesu?
Efallai y byddwch chi, aelodau o'ch teulu neu asiantaethau atgyfeirio eraill yn darparu gwybodaeth.
Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol?
Mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data at y diben hwn i’w chael yn Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU sy’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo. Mae hyn oherwydd ei bod yn ofynnol i ni ddarparu cyngor diogelwch tân ac mae'r rhaglen Cadetiaid yn un o'r ffyrdd yr ydym yn cyflawni hyn. Mae unrhyw ddata categori arbennig rydym yn ei gasglu hefyd yn cael ei brosesu o dan Erthygl 9 2(g) budd cyhoeddus sylweddol ar sail Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Pa fesurau diogelwch rydym yn eu defnyddio wrth brosesu eich data personol?
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau prosesu data o ddifrif a dim ond yn cofnodi’r swm lleiaf o wybodaeth sy’n angenrheidiol at y diben gofynnol. Pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei dal yn ysgrifenedig bydd yn cael ei chadw nes iddi gael ei throsglwyddo i'n system gyfrifiadurol cyn cael ei dinistrio'n ddiogel. Mae gwybodaeth a gedwir ar ein systemau cyfrifiadurol yn cael ei diogelu gyda
Pa ddatgeliadau a wnawn o’ch data personol?
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’r data sydd gennym ag asiantaethau eraill y credwn sydd fwyaf priodol i’ch cynorthwyo yn seiliedig ar ein hasesiad. Gall hyn gynnwys yr awdurdod lleol a all gynorthwyo unigolion gyda chwympiadau yn y cartref, gofal cymdeithasol a materion safonau masnach. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru lle teimlwn fod angen iddynt ddarparu cefnogaeth neu gymorth ynghylch trosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, bregusrwydd neu ddiogelu.
Yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn annhebygol o rannu eich gwybodaeth bersonol a byddwch yn cael gwybod am atgyfeiriad os byddwn yn gwneud hynny, oni bai nad yw er eich lles chi i wneud hynny wrth ystyried eich diogelwch chi neu eraill.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd unrhyw gofnodion papur a gesglir yn cael eu dinistrio’n ddiogel unwaith y bydd y wybodaeth wedi’i throsglwyddo i’n systemau cyfrifiadurol. Bydd ein systemau cyfrifiadurol yn cynnal y data hwn cyhyd ag y bo angen i gyflawni ein rhwymedigaethau.
Beth yw eich hawliau dros eich data personol rydym yn ei brosesu, a sut gallwch chi eu harfer?
Esbonnir eich hawliau yn llawn yn ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y gallwch ddod o hyd iddo yma
Sut gallaf godi pryder am y defnydd o fy nata personol?
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut rydym yn prosesu eich data personol.
Post:
Swyddog Diogelu Data
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
sir Ddinbych
LL 17 0JJ
E-bost:dpo@northwalesfire.gov.wales
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon mae gennych yr hawl i gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth
Comisiynydd Gwybodaeth
Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau a gellir cysylltu ag ef yn y ffyrdd a ganlyn:
Trwy'r post:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
sir Gaer
SK9 5AF
Ar-lein yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Dyddiad y diweddariad diwethaf
Gwnaethom ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar13 Chwefror 2025. Rydym yn adolygu’r polisi preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn ei ddiweddaru os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth ynddo’n newid.