Diogelwch Cychod
Diogelwch Cychod
Gall tân fod yn ddigwyddiad peryglus a brawychus iawn ond gall ei effeithiau fod hyd yn oed yn fwy difrifol pan fydd hi’n anodd dianc neu phan fydd yn rhaid i chi ddianc i le peryglus arall. Gallwch leihau’r risg o dân drwy ddilyn y cyngor isod:
- Gosodwch larwm mwg
- Gwnewch yn siŵr bod modd i garpedi a llenni, dodrefn â sbwng a gosodiadau wrthsefyll.
- Lluniwch gynllun dianc a gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod beth i'w wneud mewn achos o dân
- Gosodwch offer diffodd tân yn yr ystafell injan ac wrth y sedd yrru
- Rhowch fatris mewn blwch pwrpasol sydd wedi ei awyru
Os bydd tân yn digwydd yn y marina
Os yw’n ddiogel i wneud hynny, diogelwch y cyflenwadau nwy a thannwyd.
Ewch oddi ar y cwch a gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwisgo siacedi achub.
Ffoniwch 999.
Arhoswch allan.
Rhybuddiwch y cychod sydd gerllaw.
Os oes tân yn digwydd ar y môr
Taclwch y tân os yw’n ddiogel i chi wneud hynny yn unig.
Galwch Gwyliwr y Glannau/y Gwasanaeth Tân ac Achub
Nodwch eich lleoliad ac unrhyw dirnodau
Gwnewch yn siŵr bod y criw yn gwisgo siacedi achub
Paratowch fagiau argyfwng (fflerau, radio VHF, cwmpawd) a rafft
Os yw’n ddiogel i chi wneud hynny, trowch y cyflenwadau nwy a thanwydd i ffwrdd.
Peidiwch ag agor panel yr injan.
Dylech ond adael y cwch os yw hynny’n angenrheidiol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar ddiogelwch cychod.