Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Her gyfreithiol i ddiwygiadau pensiynau 2015

DIBEN YR ADRODDIAD

Rhoi diweddariad i aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) ynghylch yr her gyfreithiol i weithredu'r diwygiadau i’r cynllun pensiwn diffoddwyr tân a ddaeth i rym yn 2015. Cyflwynodd Undeb y Brigadau Tân (FBU) yr her gyfreithiol lwyddiannus ar ran ei aelodau ar sail gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran. Mae gan y canlyniad oblygiadau ar draws holl gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Yn dilyn proses gyfreithiol hir, dyfarnodd y Llys Apêl o blaid yr hawlwyr a chadarnhaodd y dyfarniad a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2018 nad oedd cyfiawnhad dros y gwahaniaethu ar sail oedran sy'n gynhenid yn niwygiadau pensiynau 2015. Gelwir yr achos yn Ddyfarniad McCloud/ Sargeant (y Dyfarniad).

Ym mis Mehefin 2019, fe wnaeth y Goruchaf Lys wrthod i Lywodraeth y DU gael hawl i apelio ac mae’r mater bellach yn destun proses y tribiwnlys cyflogaeth i bennu rhwymedi. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y canlyniad yn berthnasol i holl gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn y DU ac nad oes angen i aelodau unigol gyflwyno hawliadau am rwymedi.

I gynorthwyo â’r broses o bennu rhwymedi priodol, fe wnaeth Trysorlys EM gyhoeddi dogfen ymgynghorol ar 16 Gorffennaf 2020. Roedd y ddogfen yn nodi ystod o ddewisiadau i fynd i’r afael â’r gwahaniaethu ar draws holl gynlluniau’r sector cyhoeddus. 11 Hydref 2020 oedd y dyddiad olaf i ymateb i’r ymgynghoriad, ac atodir ymateb yr Awdurdod yn Atodiad A.

SYLWADAU GAN Y PANEL GWEITHREDOL NEU’R PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r adroddiad hwn wedi ei drafod gan y Panel Gweithredol na’r Pwyllgor Archwilio. Bu i’r ymatebion i’r ymgynghoriad gael eu trafod gyda Chadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod a Chadeirydd y Bwrdd Pensiwn Lleol.

ARGYMHELLION

Gofynnir i aelodau nodi:

(i) cefndir dyfarniad McCloud/Sargeant;
(ii) y sefyllfa bresennol o ran rhwymedi;
(iii) oblygiadau ariannol y rhwymedi; a
(iv) yr ymateb i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd ar ran yr Awdurdod.

CEFNDIR

Yn dilyn adolygiad yr Arglwydd Hutton o bensiynau’r sector cyhoeddus yn 2011, fe wnaeth Deddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus (2013) ddarparu’r fframwaith cyfreithiol i ddiwygio cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Roedd y diwygiadau yn cynnwys cyfyngu ar gynlluniau ar sail cyflog terfynol a oedd yn bodoli ar y pryd, cynyddu oedrannau ymddeol a chyflwyno cynlluniau sy’n seiliedig ar gyfartaledd gyrfa.

Yn ystod 2015, diwygiwyd holl brif gynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus, yn cynnwys cynllun y diffoddwyr tân, er mwyn darparu buddion diffiniedig ar sail cyfartaledd gyrfa a chynyddu oedran ymddeol arferol yr aelodau. Er mwyn gweithredu’r newidiadau hyn, diwygiwyd rheoliadau’r cynllun pensiwn.

Roedd y rheoliadau diwygiedig hefyd yn darparu amddiffyniad ar gyfer aelodau cynlluniau ar sail cyflog terfynol a oedd eisoes yn bodoli. Roedd yr amddiffyniad hwn yn seiliedig ar oedran ac roedd aelodau a oedd wedi troi’n 55 mlwydd oed (oedran pensiwn arferol) erbyn 31 Mawrth 2022 yn cael amddiffyniad llawn ac roedd aelodau eraill yn cael amddiffyniad graddedig yn dibynnu ar eu hoedran. Gelwid yr amddiffyniad hwn yn ‘amddiffyniad wrth bontio’ a chafodd yr aelodau hynny nad oeddent yn gymwys i gael amddiffyniad eu trosglwyddo yn uniongyrchol i Gynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân newydd 2015.

Her gyfreithiol i’r amddiffyniad ar sail oedran

Cyfunwyd y ddau hawliad cyfreithiol ac aethpwyd â hwy drwy’r broses gyfreithiol; un yn erbyn cynllun pensiwn y barnwyr (achos McCloud) a’r llall yn erbyn cynllun pensiwn y diffoddwyr tân (achos Sargeant). Daethpwyd â’r her gyfreithiol ar y sail fod y trefniadau pontio yn wahaniaethol ar sail oedran, rhyw a hil.

Yn Rhagfyr 2018, pennodd y Llys Apêl fod yr amddiffyniad wrth bontio yn achosi gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail oedran. Gwrthododd y Goruchaf Lys gais y Llywodraeth am ganiatâd i apelio, sy’n golygu yr erys penderfyniad y Llys Apêl.

Yng Ngorffennaf 2019, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gydweithio â’r Tribiwnlys Cyflogaeth i sefydlu rhwymedi ar draws holl gynlluniau’r sector cyhoeddus. Fe wnaeth hynny ddiddymu’r angen am ragor o ymgyfreitha gan aelodau cynlluniau eraill y sector cyhoeddus sydd wedi’u heffeithio yn yr un modd gan y Dyfarniad.

Fe wnaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth gynnal gwrandawiad rheoli achos yn Rhagfyr 2019 i bennu’r camau trefniadol i weithredu penderfyniad y Llys Apêl yn briodol.

Gwrandawiad Rheoli Achos

Canfu’r Llys Apêl fod y darpariaethau pontio yng nghynlluniau pensiwn y diffoddwyr tân yn achosi gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran rhwng y canlynol:

- y sawl a oedd yn aelodau o’r hen gynllun (Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 1992) (“FPS”) ac a oedd yn cael eu hamddiffyn yn llawn wrth bontio trwy barhau i fod yn rhan o’r Cynllun hwnnw wedi 31 Mawrth 2015 o ganlyniad i fod yn aelod gweithredol o dan Gynllun 1992 ar 31 Mawrth 2012;

- y sawl a oedd yn aelodau o’r FPS ar 31 Mawrth 2012 a heb amddiffyniad llawn wrth bontio ac a gafodd eu symud i Gynlluniau Pensiwn newydd y Diffoddwyr Tân wedi 31 Mawrth 2015.

Yn dilyn y gwrandawiad, cafwyd datganiad dros dro gan y Tribiwnlys Cyflogaeth oedd yn nodi fod gan yr hawlwyr a enwir (a oedd oll yn rhan o gategori (b)) hawl i gael eu trin fel pe baent wedi cael amddiffyniad pontio llawn ac wedi parhau yn eu cynllun cyfredol wedi 1 Ebrill 2015.

Mae’r broses o bennu’r rhwymedi mwyaf effeithiol yn gymhleth, oherwydd efallai fod rhai aelodau yn well eu byd o dan y trefniadau cyfartaledd gyrfa newydd, a gallent fod ar eu colled pe baent ond yn dychwelyd i’r hen gynlluniau.

Ymgynghoriad ynghylch cynigion am rwymedi

Ar 16 Gorffennaf 2020, fe wnaeth Trysorlys EM gyhoeddi dogfen ymgynghorol sy’n nodi’r cynigion a’r dewisiadau i fynd i’r afael â’r gwahaniaethu ar draws cynlluniau’r sector cyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth gefndir a’r ddogfen ymgynghorol ar gael trwy droi at:

http://www.fpsregs.org/index.php/legal-landscape/age-discrimination-remedy-sargeant

Fe wnaeth yr ymgynghoriadau gydnabod y gallai aelodau cynlluniau, oherwydd amgylchiadau unigol, fod yn well eu byd o dan y cynlluniau diwygiedig na’r cynlluniau blaenorol. Y cynnig allweddol yn yr ymgynghoriad yw rhoi cyfle i aelodau gael dewis rhwng derbyn buddion y cynllun blaenorol neu fuddion y cynllun diwygiedig mewn perthynas â’u gwasanaeth yn ystod cyfnod y rhwymedi (o 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2022). Wedi hynny, cynigir y dylai pob aelod symud i gynllun 2015.

Fe wnaeth yr ymgynghoriad nodi dau ddull posibl o wneud y dewis hwn, a darparu manylion ynghylch sut gallai’r ddau ddull weithio. Dyma’r ddau ddull posibl:

- gwneud dewis yn syth wedi diwedd cyfnod y rhwymedi; neu

- danategu trwy ddewis gohiriedig (deferred choice underpin - DCU).

Wrth benderfynu dewis yn syth, byddai angen i aelodau wneud penderfyniad ar ôl 31 Mawrth 2022; fodd bynnag, nid yw’r amserlen ynghylch gwneud penderfyniad wedi cael ei phennu. Yn achos llawer o aelodau, bydd hyn yn digwydd nifer o flynyddoedd cyn iddynt ymddeol, ac ar adeg pan erys rhywfaint o ansicrwydd ynghylch yr union fuddion a allai fod ar gael. Mewn cyferbyniad, o dan y DCU, byddai’r penderfyniad yn cael ei ohirio tan yr adeg pan fydd aelod yn ymddeol. O dan yr opsiwn DCU, byddid yn ystyried fod yr holl aelodau wedi cronni buddion o dan y cynllun blaenorol yn ystod cyfnod y rhwymedi.

Beth bynnag fo’r dull, gofynnir i’r sawl sydd eisoes wedi ymddeol ac/neu wedi derbyn dyfarniad pensiwn i wneud eu dewis cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol ar ôl i’r newidiadau gael eu gweithredu. Byddai’r dull a ddewisir ganddynt yn cael ei weithredu’n ôl-weithredol i’r dyddiad pan wnaed y dyfarniad.

Mae trafodaethau technegol wedi cael eu cynnal gyda gweinyddwyr cynlluniau pensiynau a Bwrdd Ymgynghorol y Cynlluniau Pensiynau yng Nghymru sy’n cynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr a chyflogeion o bob cwr o Gymru.

Roedd y consensws o’r trafodaethau technegol yn pwysleisio pwysigrwydd lleihau’r risg o ragor o wahaniaethu a sicrhau trefniadau gweinyddol priodol. Ystyrid mai’r opsiwn DCU sydd orau i leihau’r risg o ragor o wahaniaethu, oherwydd bydd yr aelod yn cael dewis ar adeg ymddeol neu wrth adael y Gwasanaeth. Yn ychwanegol, ystyrid y byddai gorfodi aelodau i ddewis yn syth yn golygu fod angen mynediad at gyngor diduedd o ansawdd uchel gan ymgynghorydd proffesiynol, a gallai hyn fod yn broblemus gan ystyried yr amserlen sydd dan sylw.

Bydd y baich gweinyddol yn deillio o’r naill ddewis neu’r llall yn sylweddol. Yn reddfol, o safbwynt cyflogwr, byddid yn ffafrio’r opsiwn dewis yn syth oherwydd mae hynny’n cynnig mwy o sicrwydd o ran modelu ariannol. Fodd bynnag, mae hynny hefyd yn golygu her sylweddol yn sgil yr angen i ailysgrifennu a chyflwyno meddalwedd i ddarparu gwybodaeth ddiweddaredig, gyflawn a chywir i aelodau. Yn ychwanegol, nid oes gan weinyddwyr y capasiti i gynnal yr ymarfer hwn ar draws y sector cyhoeddus o fewn yr amserlen argymelledig.

Ystyrid mai opsiwn y tanategu trwy ohirio oedd yr opsiwn gorau oherwydd roedd yn haws ymdopi â’r baich gweinyddol ac roedd llai o bosibilrwydd y gallai aelodau deimlo eu bod wedi cael cam pe baent yn teimlo maes o law eu bod wedi gwneud y dewis amhriodol.

Mae cwestiynau’r ymgynghoriad a’r ymatebion iddynt yn Atodiad A.

Amserlen a’r camau nesaf

Daeth yr ymarfer ymgynghori i ben ar 11 Hydref 2020 a rhagwelir y ceir rhagor o eglurder yn ystod y misoedd sy’n dod ynghylch y camau a weithredir i gwblhau’r mater. Bydd hyn yn cynnwys cadarnhau’r rhwymedi terfynol y bydd angen eu hymgorffori yn rheoliadau sylfaenol y cynlluniau pensiwn. Rhagdybir ar hyn o bryd na chaiff y diwygiadau i’r rheoliadau eu gweithredu hyd at 2022, o bosibl.

Bydd nifer o aelodau yn cyrraedd oedran ymddeol arferol y cynllun blaenorol cyn i’r rheoliadau gael eu diwygio. Ystyrir fod aelodau o’r fath dan anfantais ddybryd. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith y buasent yn gymwys i ymddeol o dan y rhwymedi arfaethedig, ond nid yw’r rheoliadau wedi cael eu diwygio, felly nid yw rheolwr y cynllun yn gallu prosesu hyn.

Gofynnwyd am farn gyfreithiol i weld a yw’r rheoliadau’r presennol yn caniatáu i reolwyr y cynllun brosesu’r pensiynau ar gyfer aelodau sy’n wynebu anfantais ddybryd. Mae trafodaethau technegol hefyd wedi cael eu cynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a chydweithwyr o wasanaethau tân ac achub eraill i gytuno ynghylch sut byddai achosion o’r fath yn cael eu prosesu pe bai’r cadarnhad cyfreithiol yn caniatáu iddynt gael eu prosesu cyn i’r rheoliadau gael eu diwygio.

Agweddau ariannol y rhwymedi

Mae’r cynigion ynghylch rhwymedi yn awgrymu y bydd aelodau cymwys yn cael buddion y cynllun blaenorol dros gyfnod y rhwymedi. Mae hyn yn darparu buddion gwell i’r aelodau hynny sydd wedi’u heffeithio. Mae oblygiadau ariannol hyn eisoes wedi cael eu cyfrifo gan Adran Actiwarïaid y Llywodraeth (GAD), ac amcangyfrifir mai oddeutu £11m yw’r gost. Cynhwysir hyn yng nghyfanswm rhwymedigaethau pensiwn yr Awdurdod.

Bydd angen i aelodau a fydd yn cael buddion eu cynllun blaenorol dros gyfnod y rhwymedi unioni unrhyw dandaliadau mewn perthynas â chyfraniadau cyflogai. Cynigodd yr ymgynghoriad y dylid unioni tandaliadau dros nifer o flynyddoedd, a rhagwelir y cytunir ynghylch hyn fel rhan o’r rhwymedi terfynol. Yn ychwanegol, os bydd hi’n ofynnol i aelodau gael buddion eu cynllun blaenorol dros gyfnod y rhwymedi, bydd hynny’n arwain at orfod ôl-dalu cyfraniadau cyflogwr, ac nid yw’n eglur hyd yn hyn sut caiff y rhain eu gweinyddu.

Prisir y cynllun yn llawn bob pedair blynedd. Mae data’r cynllun i alluogi’r prisio llawn nesaf yn cael eu paratoi ar hyn o bryd, a chânt eu defnyddio i gyfrifo cyfraniadau’r cyflogwr a’r cyflogai yn y dyfodol.

Nid yw’r cyllid at y dyfodol i ymateb i effaith yr her gyfreithiol wedi cael ei bennu hyd yn hyn, ac mae swyddogion yn trafod yn rheolaidd â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Er nad oes cysylltiad uniongyrchol â’r amcanion llesiant, bydd holl aelodau’r cynlluniau pensiwn cyhoeddus a gynigir gan yr Awdurdod yn cael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig.
Cyllideb - Bydd y rhwymedi yn y dyfodol yn arwain at oblygiadau o safbwynt cyllideb yr Awdurdod; bydd y rhwymedi yn golygu mwy o gostau gweinyddol a mwy o gostau blwydd-dal cyflogwr.
Cyfreithiol - Mae gan yr Awdurdod ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn.
Staffio - Mae’r mater hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar gyflogeion sy’n aelodau o gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus a gynigir gan yr Awdurdod; yn dibynnu ar y cynllun, gall aelodau ddewis ymddeol yn gynharach o dan y cynigion newydd nag yn achos y rheoliadau presennol.
Cydraddoldeb / Hawliau Dynol / y Gymraeg - Mae’r cynigion yn mynd i’r afael â’r trefniadau amddiffyniad wrth bontio seiliedig ar oedran anghyfreithlon yng nghynlluniau pensiwn 2015, ac yn sicrhau triniaeth deg i holl aelodau’r cynlluniau pensiwn.
Risgiau - Byddai diffyg cydymffurfiaeth â deddfwriaeth yn arwain at risg gyfreithiol a risg o niwed i enw da.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen