Atodiad 1 – Crynodeb o’r rhagdybiaethau cynllunio a’r risgiau
Pennawd | Y rhagdybiaethau cynllunio a ddefnyddiwyd wrth osod y gyllideb | Risgiau |
Costau Gweithwyr | Mae’r cyllidebau staffio wedi cael eu ffurfio ar sail modelau cyflawni cyfredol y gwasanaeth. Y rhagdybiaeth weithio bresennol yw mai 2% fydd y chwyddiant cyflogau. Ni ragwelir cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Bydd y £0.3m o gynnydd mewn perthynas â chyfraniadau’r cyflogwr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael ei reoli drwy arbedion effeithlonrwydd sy’n mynd ymlaen. Cymerir y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau’r cyflogwr i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân yn parhau i gael ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth Cymru. | Nid yw Cyd-gyngor yr NJC wedi dod i gytundeb eto am y dyfarniad cyflog i’r diffoddwyr tân ar gyfer y cyfnod 2017/18. Nid yw’r Cyd-bwyllgor Negodi ar gyfer Awdurdodau Lleol wedi cyhoeddi cynigion eto ar gyfer dyfarniad cyflog 2020/21. Mae’r gwaith o gynllunio’r gyllideb yn rhagdybio lefelau cyffredin o weithgarwch. Teimlir pwysau ar y gyllideb os bydd llif o ddigwyddiadau. Y rhagdybiaeth weithio yw defnyddio’r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn yn y lle cyntaf. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eto a fydd yn parhau i roi grant i gefnogi’r cynnydd yng nghyfraniadau’r cyflogwr i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân. Amcangyfrifir mai £1.3m fydd y costau yn 2020/21. Yn Rhagfyr 2018, fe wnaeth y llywodraeth golli ei hapêl yn erbyn yr her gyfreithiol am y trefniadau pensiwn trosiannol i ddiffoddwyr tân. Bydd y mater yn mynd i Dribiwnlys Cyflogaeth i gywiro pethau. Nid yw’r canlyniad ariannol yn hysbys, ac nid oes darpariaeth wedi cael ei gwneud. Yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus i drychineb Grenfell, mae’n bosibl y bydd newidiadau i reoliadau adeiladu a’r cyfrifoldebau cysylltiol. Ni wyddom eto sut gallai’r rhain effeithio ar y sector tân ac achub, ac nid oes darpariaeth wedi cael ei gwneud. |
Costau nad ydynt yn gyflogau | Mae cyllidebau ar gyfer costau nad ydynt yn gyflogau wedi aros heb newid ers nifer o flynyddoedd, a lleddfwyd pwysau costau drwy wneud arbedion. Yr asesiad cynllunio cychwynnol ar gyfer y strategaeth hon oedd parhau, gan mwyaf, gyda chynnydd bach. Oherwydd parhad mewn pwysau costau na ellir eu hosgoi, sy’n cynnwys cynnydd mewn costau tanwydd, gwaith cynnal a chadw wedi cronni, ardrethi annomestig cenedlaethol, yswriant a chyfleustodau, cynigir 6.5% o gynnydd yn y gyllideb. Bydd pwysau costau gweddilliol yn parhau i gael eu talu drwy reoli costau ar draws y pennawd hwn. | Er bod y Gwasanaeth yn parhau i adolygu’r costau nad ydynt yn gyflogau, a’i fod yn ymdrechu i reoli pwysau costau o fewn y gyllideb a gynlluniwyd, mae hyn yn faes risg o hyd oherwydd pwysau parhaus ym maes technoleg gwybodaeth. Yn arbennig, mae oedi wedi bod yn y gwaith cenedlaethol o gaffael Rhwydwaith ar gyfer Gwasanaethau Brys ac mae’r contract presennol wedi cael ei ymestyn. Rhagdybir y bydd y £0.4m o gymorth refeniw cyfredol gan Lywodraeth Cymru yn parhau, er na chafwyd cadarnhad o hyn eto. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dal yn faes ansicr ar draws yr economi. Nid oes darpariaeth wedi cael ei gwneud yn y gyllideb ar gyfer cynnydd mewn costau oherwydd chwyddiant neu risgiau cyfraddau cyfnewid. Yn y tymor byr, byddai’r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn yn cael ei defnyddio ond ni fyddai hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir. Gallai canlyniad yr ymgynghoriad ar y gwaith o ddabtlygu Strategaeth Amgylcheddol arwain at wariant ychwanegol. Nid oes costau wedi cael eu cynnwys hyd yma yng ngyllideb sylfaenol 2020/21. |
Ariannu Cyfalaf | Roedd yr asesiad cynllunio gwreiddiol yn cynnwys rhaglen gyfalaf gwerth £3.1m ar gyfer 2019/20. Mae’r rhaglen gyfalaf hon wedi cael ei diwygio, a’r rhagolwg cyfredol yw £2.8m o ofyniad ariannu cyfalaf, gyda’r gostyngiad yn cael ei ddefnyddio i ariannu pwysau sy’n deillio o gostau nad ydynt yn gyflogau. | Ni wyddom beth yw’r cynnydd posibl mewn cyfraddau llog, a gallai hynny fod yn uwch na’r rhagdybiaethau cynllunio. |
Incwm | Mae’r cyllidebau incwm wedi cael eu hadolygu, ac wedi eu gosod yn unol â’r blynyddoedd blaenorol. | Ni chanfuwyd unrhyw risgiau penodol. |
Atodiad 2 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/2023 - Refeniw
Cyllideb 2019/20 £ | Amcanestyniad 2019/20 £ | Cyllideb Ddrafft 2020/21 £ | Rhagolwg 2021/22 £ | Rhagolwg 2022/23 £ | |
Prif Swyddogion | 691,854 | 676,313 | 656,127 | 669,250 | 682,635 |
Ymateb, Amddiffyn ac Atal | 22,095,245 | 21,811,786 | 22,470,804 | 22,920,220 | 23,378,624 |
Corfforaethol | 2,777,677 | 2,786,067 | 2,761,274 | 2,816,500 | 2,872,830 |
Costau eraill yn gysylltiedig â gweithwyr | 429,659 | 469,659 | 445,390 | 454,298 | 463,384 |
Costau pensiwn (ac eithrio cyfraniadau’r gweithwyr) | 1,181,700 | 1,188,600 | 1,322,500 | 1,366,710 | 1,412,164 |
Cyfanswm Costau Gweithwyr | 27,176,135 | 26,932,425 | 27,656,095 | 28,226,977 | 28,809,636 |
Safleoedd | 2,242,696 | 2,532,696 | 2,328,476 | 2,375,045 | 2,422,546 |
Cludiant | 1,019,556 | 1,037,556 | 1,040,608 | 1,092,638 | 1,147,270 |
Cyflenwadau a Gwasanaethau | 4,178,829 | 4,356,829 | 4,450,375 | 4,539,383 | 4,630,171 |
Taliadau i Drydydd Partïon | 416,740 | 416,740 | 425,095 | 433,597 | 442,268 |
Cyfanswm Gwariant sydd heb fod yn gysylltiedig â Chyflogau | 7,857,821 | 8,343,821 | 8,244,553 | 8,440,663 | 8,642,255 |
Ffioedd a Thaliadau/Incwm Amrywiol | -456,788 | -467,434 | -399,570 | -399,570 | -399,570 |
Incwm grantiau | -2,395,244 | -2,395,244 | -2,395,244 | -2,395,244 | -2,395,244 |
Cyfanswm yr Incwm | -2,852,032 | -2,862,678 | -2,794,814 | -2,794,814 | -2,794,814 |
Ariannu Cyfalaf a Thaliadau Llog | 3,055,188 | 2,823,544 | 2,836,020 | 3,201,411 | 3,424,801 |
Gofyniad y gyllideb | 35,237,112 | 35,237,112 | 35,941,854 | 37,074,237 | 38,081,879 |
Cynnydd yn y gyllideb | 2% | 3% | 3% | ||
|
Atodiad 3 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/2023 – Cyfalaf
Adran | Disgrifiad | Cyllideb
£ 2019/20 | Amcan-gyfrif o’r Alldro £ 2019/20 | Cyllideb ac arian cario drosodd arfaeth-edig £ 2020/21 | Rhagolwg
£ 2021/22 | Rhagolwg
£ 2022/23 |
Fflyd | Cerbydau a pheiriannau yn lle hen rai | 191,000 | 180,000 | 1,306,000 | 1,255,000 | 1,355,000 |
Gweithred-iadau | Cyfarpar Amddiffyn Personol a chyfarpar gweithredol | 30,000 | 0 | 944,682 | 30,000 | 30,000 |
Cyfleuster-au | Uwchraddio adeiladau | 878,000 | 703,950 | 1,194,000 | 2,000,000 | 850,000 |
TGCh/ Ystafell Reoli | Uwchraddio systemau a gwaith sy’n gysylltiedig â hynny | 953,649 | 614,385 | 644,130 | 400,000 | 750,000 |
Dyraniad Cyfalaf Arfaethedig | 2,052,649 | 1,498,335 | 4,088,812 | 3,685,000 | 2,985,000 |
Atodiad 4 – Cyfraniadau’r Awdurdodau Lleol Cyfansoddol 2020/21
Awdurdod | Cyfrania 2019/2020 £ | Poblogaeth
| Poblogaeth % | 2020/2021 Amcanol* £ | Cynnydd yn y cyfraniadau £ | Cynnydd % |
| ||||||
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | 5,875,914 | 117,223 | 17% | 5,988,521 | 112,607 | 1.9% |
Cyngor Sir Ynys Môn | 3,522,798 | 70,169 | 10% | 3,584,694 | 61,896 | 1.7% |
Cyngor Gwynedd | 6,226,618 | 124,426 | 18% | 6,356,498 | 129,880 | 2.0% |
Cyngor Sir Ddinbych | 4,805,681 | 95,931 | 14% | 4,900,786 | 95,105 | 1.9% |
Cyngor Sir y Fflint | 7,790,476 | 155,442 | 22% | 7,940,999 | 150,523 | 1.9% |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | 7,015,625 | 140,358 | 20% | 7,170,409 | 154,784 | 2.2% |
Cyfanswm | 35,237,112 | 703,548 | 100% | 35,941,854 | 704,793 | 2% |
* Mae cyfraniadau rhagamcanol yr awdurdodau lleol 2020/2021 yn seiliedig ar gyllideb ddrafft, a rhaid eu hystyried ar y cyd â’r risg a’r ansicrwydd a amlinellir yn yr adroddiad.