Dyddiadau Cyfarfodydd 2020/21
Pwrpas yr Adroddiad
Hysbysu aelodau o ddyddiadau cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, Panel Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2020/21.
Crynodeb Gweithredol
Hysbysu aelodau o ddyddiadau cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, Panel Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2020/21 fel a ddangosir ym mharagraffau 7-9 o’r adroddiad hwn.
Argymhelliad
Argymhellir bod aelodau’n nodi dyddiadau cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, Panel Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Cefndir
Cytunwyd ar ddyddiadau ar gyfer yr holl gyfarfodydd hyd Mehefin 2020 ym mis Mehefin 2019. Bydd hysbysiad ymlaen llaw o’r dyddiadau o gymorth i aelodau a swyddogion gyda’u hamserlenni.
Gwybodaeth
Yr Awdurdod Tân ac Achub
Mae Rheol Sefydlog 4(2) o Reolau Sefydlog yr Awdurdod yn nodi y dylid cynnal cyfarfodydd o’r Awdurdod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, gyda’r cyfarfod blynyddol i’w gynnal cyn ddiwedd Mehefin fan bellaf. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Llun yn y mis oni bai fod y Cadeirydd, mewn ymgynghoriad â’r Clerc a’r Prif Swyddog Tân, yn pennu’n wahanol.
Dyma’r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd yr Awdurdod:
- Dydd Llun 16 Mawrth 2020
- Dydd Llun 15 Mehefin 2020
- Dydd Llun 21 Medi 2020
- Dydd Llun 21 Rhagfyr 2020
- Dydd Llun 15 Mawrth 2021
Y Panel Gweithredol
Dyma ddyddiadau cyfarfodydd y Panel Gweithredol, sydd i’w cynnal ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy am 10.00 y bore:
- Dydd Llun 10 Chwefror 2020
- Dydd Llun 18 Mai 2020
- Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020, 2 o’r gloch y pnawn
- Dydd Llun 15 Chwefror 2021
Pwyllgor Archwilio
Dyma ddyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio, sydd i’w cynnal ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy am 10.00 y bore:
- Dydd Llun 27 Ionawr 2020
- Dydd Llun 27 Gorffennaf 2020
- Dydd Llun 21 Medi 2020, 9.30am, Bodlondeb
- Dydd Llun 25 Ionawr 2021
Goblygiadau
Amcanion Llesiant | Ddim yn berthnasol |
Cyllideb | Ddim yn berthnasol |
Cyfreithiol | Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn unol â Rheolau Sefydlog ATAGC a’r cylch gorchwyl perthnasol. Mae disgwyl i aelodau ddilyn y cod ymddygiad bob amser |
Staffio | Ddim yn berthnasol |
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg/ | Mae holl gyfarfodydd yr Awdurdod Tân yn cydymffurfio â chydraddoldeb |
Risgiau | Ddim yn berthnasol |