Prentisiaeth Diffoddwr Tân
CADWCH LYGAID YN YR ADRAN SWYDDI GWAG DIWEDDARAF AR GYFER EIN CYFLEOEDD PRENTISIAETHAU.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyfle i bobl 18 oed a hŷn sydd yn barod i ymrwymo i ddysgu sgiliau newydd i gwblhau rhaglenni prentisiaeth tair blynedd.
Mae’r Prentisiaeth Diffoddwr Tân yn dilyn rhaglen hyfforddi ‘Sgiliau Er Cyfiawnder’ sydd yn darparu dealltwriaeth a llwybr clir ar gyfer rôl y diffoddwr tân a rheolwr modern.
Bydd y Diffoddwyr Tân Prentis yn cwblhau rhaglen hyfforddi i fod yn ddiffoddwyr tân ‘cymwys’ ac, yr un mor bwysig, yn cael blas ar y swyddogaethau eang sydd yn cyfrannu tuag at ddarparu gwasanaeth tân ac achub modern.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymateb i bob math o ddigwyddiadau megis tanau, gwrthdrawiadau traffig, llifogydd, tanau gwyllt a gollyngiadau cemegol ond mae ein prentisiaid hefyd yn dysgu am y modd y mae ein timau a phartneriaid yn codi ymwybyddiaeth ac atal digwyddiadau trwy ddarparu cyngor diogelwch cymunedol a rhaglenni addysgol.
Cymwyseddau a sgiliau i’w harddangos:
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol i ddod yn Brentis Diffoddwyr Tân. Fodd bynnag, os caiff unigolion eu recriwtio fel Prentis Diffoddwyr Tân heb TGAU C neu uwch neu gymwysterau cyfatebol mewn Saesneg a Chymraeg a Rhifedd a Mathemateg, bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso rhifau. Bydd angen i brentisiaid hefyd gwblhau cymhwyster mewn llythrennedd digidol oni bai bod ganddynt gymhwyster TGAU C neu uwch neu gymhwyster cyfatebol arall mewn TGCh.
- Llwyddo i basio’r Profion Gallu Cenedlaethol a’r Profion Ffitrwydd – fe fydd y prentisiaid yn cael eu rhoi ar brawf ac felly mae’n rhaid iddynt fod yn ddigon ffit i gwblhau’r cwrs hyfforddi gweithredol i ddysgu sgiliau diffodd tanau, gan gynnwys gwisgo offer anadlu, delio gyda defnyddiau peryglus a mynd at wrthdrawiadau traffig ar y ffordd, gweithio o uchder mewn mannau cyfyng, gweithio y tu allan ymhob tywydd ac amodau amgylcheddol.
- Bydd angen i Brentisiaid Diffoddwyr Tân lwyddo yn arholiad meddygol mynediad y Gwasanaeth ac arddangos/cyflawni sgiliau Lefel 2 Cymraeg.