Astudiaeth Achos: Karina

"Helo! Karina ydw i – yn wreiddiol o Wlad Pwyl, ond nawr rwy'n byw yng Ngogledd Cymru ac ymunais â'r Gwasanaeth fel Diffoddwr Tân Llawn amser ychydig dros flwyddyn yn ôl.
"Rwy'n hoff iawn o fod yn Ddiffoddwr Tân, ac rydw i mor falch fy mod wedi ymuno.
"Rwyf wastad wedi bod â diddordeb yn y gwasanaeth tân ac achub, ond roeddwn i wedi cael fy magu i gredu mai dim ond dynion allai fod yn ddiffoddwyr tân.
"Yna gwelais daflen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnwys Diffoddwr Tân benywaidd, a sylweddolais – efallai y gallwn wneud hynny!
"Fe wnes i fynychu un o ddiwrnodau darganfod y Gwasanaeth a chwrdd â rhai o'r staff a darganfod mwy am yr hyn fyddai'n ddisgwyliedig o fewn y rôl, lefelau ffitrwydd ac yn y blaen.
"Sylweddolais y gallwn wneud hynny! Fe wnes i gyflwyno cais ar ôl i'r cyfle recriwtio diffoddwyr tân llawn amser agor, ac roeddwn i mor hapus pan gefais fy mhenodi yn y swydd.
"Mae'n teimlo'n wych helpu'r gymuned a datrys problemau o ddydd i ddydd.
"Mae gwaith tîm yn rhan fawr iawn o'r swydd - mae gan bawb sgiliau gwahanol, ond pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd rydych chi'n creu rhywbeth anhygoel.
"Byddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n meddwl am yrfa fel Diffoddwr Tân - peidiwch â meddwl am y peth mwyach, dewch i roi cynnig arni!"
Ydi gyrfa fel Diffoddwr Tân yn un iawn i ti?
Efallai dy fod wedi bod yn meddwl amdano ers tro, neu yn newydd ddechrau meddwl am opsiynau gyrfa, mae ein digwyddiadau darganfod yn lle gwych i ddechrau.
Wrth i ni baratoi ar gyfer recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser yn y dyfodol, yn gynnar yn 2027, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn hydref 2026.
Rydych chi wedi darllen profiad Karina, beth am archebu eich lle yn un o'n digwyddiadau sydd ar ddod a gweld drosoch eich hun beth sydd gan yrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub i'w gynnig.

