Y Broses Ddethol
Y Broses Ddethol
Cam 1 – Cofrestru Ar-lein
Bydd angen cyfrif ebost gweithredol arnoch i gwblhau’r Broses Recriwtio.
Yn ystod y broses Cofrestru Ar-lein fe ofynnir i chi ddarparu eich manylion personol ac i lenwi Rhagolwg Swydd Realistig sy’n eich galluogi chi i hunan asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl – mae’r canlyniadau hyn yn breifat ac i chi eu hystyried yn unig. Os byddwch yn penderfynu parhau, gofynnir ychydig o gwestiynau sylfaenol i chi er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gymwys i ymgeisio.
Cam 2 – Asesiad Cymhwysedd
Unwaith y byddwch wedi Cofrestru Ar-lein byddwn yn cysylltu â chi ymhen 14 diwrnod i gadarnhau eich bod yn gymwys i ymgeisio a symud ymlaen i’ camau nesaf. Bydd yn rhaid i ni ystyried nifer o ffactorau - Edrychwch ar y Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS am fwy o fanylion.
Noder na dderbynnir CV nac unrhyw geisiadau ar ffurfiau eraill.
Cam 3 – Asesiad Ar-lein
Unwaith y bydd eich cymhwysedd yn cael ei gadarnhau, fe’ch gwahoddir i lenwi’r Asesiad Ar-lein llawn. Mae’r Broses Asesu Ar-lein yn cynnwys llenwi holiadur Arddulliau Ymddygiad, sy’n ymchwilio i’r mathau o ymddygiad yr ydych yn eu ffafrio o fewn amgylchedd gwaith - does dim angen unrhyw adolygu nac astudio ychwanegol ar gyfer yr elfen hon. Bydd hefyd angen i chi gwblhau Prawf Barnu Sefyllfa a fydd yn mesur eich gallu i wneud penderfyniad mewn sefyllfaoedd sy’n codi fel rhan o’r rôl - does dim angen unrhyw brofiad fel Diffoddwr Tân i gwblhau’r prawf a does dim angen adolygu ymlaen llaw.
Cam 4 - Prawf Gallu Meddyliol
Ar ôl cwblhau’r Asesiad Ar-lein, byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu'r Profion Gweithio gyda Gwybodaeth (PGG) yn un o safleoedd y Gwasanaeth Tân. Mae'r Profion Gweithio gyda Gwybodaeth yn cynnwys sawl elfen megis, deall gwybodaeth, gweithio gyda rhifau, datrys problemau ayb. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth i'ch helpu wrth baratoi fan
Llyfryn Ymarfer ar gyfer y Profion Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân
Llyfryn Ymarfer ar gyfer yr Holiadur Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân
Edrychwch ar y Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS am fwy o fanylion.
Cam 5 – Asesiad Gallu Corfforol ac Ymarferol
Os byddwch yn llwyddiannus yng Ngham 4, byddwch yn cael gwahoddiad i fynd i'r diwrnod Asesiadau Corfforol ac Ymarferol (ACY). Mae'r profion ar y diwrnod hwn wedi'u cynllunio i asesu lefel eich ffitrwydd corfforol yn unol â gofynion y rôl.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am sut i baratoi ar gyfer y profion corfforol ac ymarferol yn ddiogel, gallwch weld yr holl brofion gweithredol a lawr lwytho’r Rhaglen Ffitrwydd Corfforol Awgrymedig o: www.gwastan-gogcymru.org.uk/recruitement/retained/firefighters/fitness-cy
Gall diffodd tân fod yn weithgarwch corfforol trwm a pheryglus, ac mae yna botensial y byddwch yn dod i gysylltiad â llwythi thermol ffisiolegol ac amgylcheddol uchel. Er mwyn sicrhau perfformiad gweithredol effeithiol a diogel, mae lefel briodol o ffitrwydd corfforol yn hanfodol.
Edrychwch ar y Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS am fwy o fanylion.
Cam 6 – Cyfweliad Dethol ac Asesiad Cymraeg
Cyfweliad Dethol
Os byddwch yn llwyddiannus yng Ngham 5, byddwch yn cael eich gwahodd am Gyfweliad Dethol. Yn ystod y cyfweliad, gofynnir cyfres o gwestiynau i chi sydd wedi’u cynllunio i fesur eich rhinweddau a’ch nodweddion personol. Edrychwch ar y Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS am fwy o fanylion.
Gofynnir cwestiynau i chi ynghylch eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o rôl y Diffoddwr Tân a byddwn yn asesu'ch sgiliau cyfathrebu drwy gydol y cyfweliad. Gallwch ddewis cael eich cyfweld yn Gymraeg neu Saesneg.
Asesiad Cymraeg
Mae’r gallu i ddangos sgiliau cwrteisi iaith Gymraeg sylfaenol yn ofyniad o’r swydd hon ac yn ddelfrydol bydd modd arddangos gallu lefel 2 yn y Gymraeg wrth wneud y cais; fodd bynnag, nid yw hyn yn hanfodol a ni fydd pobl di-Gymraeg dan anfantais.
Asesir eich sgiliau Cymraeg un ai yn ystod y broses gyfweld un ai drwy gael cyfweliad cyfrwng Cymraeg neu drwy gwblhau asesiad byr yn y Gymraeg. Yna, defnyddir canlyniadau’r asesiad Cymraeg gan yr Adran hyfforddiant i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y lefel briodol o gefnogaeth ac arweiniad er mwyn gallu cyflawni Cymraeg Lefel 2 o fewn eu cyfnod prawf.
Cam 7 – Prawf Meddygol
Os ydych yn llwyddiannus yng Ngham 6 byddwch yn cael eich gwahodd i Brawf Meddygol Cyn-Cyflogaeth gyda’n Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol. Ni fyddwn yn trefnu Prawf Meddygol ar eich rhan oni bai eich bod yn cwrdd â’r safonau addas o ran golwg. Edrychwch ar y Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS am fwy o fanylion.
Cam 8 – Gwiriadau Cyn-Cyflogaeth
Bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad cofnod troseddol DBS Sylfaenol. Os na fyddwch yn bodloni’r gwiriad* (*os nad ydych wedi datgan euogfarnau sydd heb eu disbyddu) bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl o’r Broses Ddethol.
Yn unol â Gwerthoedd Craidd y Gwasanaeth ac yn unol â Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 a Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, nid yw’r Gwasanaeth yn eich gorfodi i ddatgan unrhyw euogfarnau sydd wedi dod i ben. I gadarnhau a ydy euogfarn wedi neu heb ei disbyddu ewch i www.disclosurecalculator.org.uk.
Bydd rhaid i chi roi enw a chyfeiriad dau ganolwr, a bydd yn rhaid i un ohonynt fod yn gyflogwr presennol i chi neu’ch cyflogwr mwyaf diweddar. Os na fydd y geirdaon yn foddhaol, byddwn yn gwneud ymholiadau pellach cyn eich penodi.
Cam 9 – Penodi
Os byddwch yn llwyddiannus ym mhob cam o'r broses recriwtio, bydd penodiadau yn amodol ar ffactorau (bydd y rhain wedi eu nodi yn y llythyr cyflogaeth, a bydd yn amodol ar gwblhau cyrsiau hyfforddi gorfodol a chyfnod prawf). Os bydd unrhyw un o’r ffactorau hyn yn anfoddhaol fe all y cynnig o swydd gael ei dynnu'n ôl.
Edrychwch ar y Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS am fwy o fanylion.
Cam 10 – Cyfnod Prawf
Bydd cyfnod prawf yn rhan o’r cynnig o gyflogaeth, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn asesu’ch perfformiad yn y rôl. Ar ddiwedd y cyfnod prawf bydd y Gwasanaeth unai’n cadarnhau’ch penodiad neu’n terfynu’ch cyflogaeth o dan y broses benodol. Bydd y cyfnod prawf ar gyfer gweithwyr newydd yn cychwyn ar y dyddiad a nodir yn y contract cyflogaeth.
Bydd sawl elfen wahanol yn cael ei hasesu yn ystod y cyfnod prawf, gan gynnwys ymddygiad, gallu a chwblhau cyrsiau hyfforddi gorfodol. Mae rôl y Diffoddwr Tân ar-alwad yn golygu hyfforddiant manwl, a bydd rhai cyrsiau’n hyfforddi yn gyrsiau preswyl – bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law a bydd y Gwasanaeth yn ceisio bod mor hyblyg â phosib i addasu i’ch ymrwymiadau y tu allan i’r Gwasanaeth wrth drefnu cyrsiau.
Byddwn yn eich diweddaru’n gyson ynglŷn â’ch cais.