Recriwtio a Swyddi Gwag
Croeso i'r adran recriwtio a swyddi gwag.
Yma cewch fanylion am y gwahanol gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ar draws ystod eang o feysydd.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob sector o'r gymuned. Croesawir ceisiadau gan bobl beth bynnag eu hoedran, anabledd, hil, rhyw, crefydd neu dueddiadau rhywiol.
Cewch hefyd fanylion am ein swyddi gwag cyfredol, ffurflenni cais a gwybodaeth bellach am weithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Gwybodaeth am gyfweliadau PQA (dogfen cenedlaethol DU - Saesneg yn unig)
Gwybodaeth ynghylch anfon gwybodaeth sensitif
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn.
Mae holl sefydliadau sy'n aelodau o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru yn ymrwymo i hyrwyddo ac amddiffyn yr iaith Gymraeg.
Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn derbyn CVs mewn ceisiadau am swyddi gwag neu swyddi gwag posibl. Caiff unrhyw CV a anfonir atom ei ddileu. Caiff unrhyw gais a wneir mewn perthynas â swyddi gwag presennol, gan ddefnyddio ffurflen gais ffurfiol neu ein porth recriwtio arlein, ei drin yn unol â’r trefniadau safonol. Wrth wneud cais am swydd wag bresennol, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth bersonol. I gael gwybod pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon a beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth hon, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd Recriwtio.
- Swyddi gwag
- Pam gweithio i ni?
- Diffoddwyr Tân Ar-Alwad
- Diffoddwyr Tân Llawn Amser
- Gwasanaethau Cefnogol
- Gweithredwyr Yr Ystafell Reoli
- Prentisiaethau
- Byddwch yn rhan o'n tîm