Neges gan dîm Adolygu Diwylliant Annibynnol yn Crest Advisory: Ymgysylltu
Neges gan dîm Adolygu Diwylliant Annibynnol yn Crest Advisory: Ymgysylltu
Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynd ati ar y cyd i benodi Crest Advisory i hwyluso adolygiad diwylliannol annibynnol.
Daw yr Adolygiad ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn, ym mis Mawrth, gynnig gan y gwasanaethau tân ac achub i adolygu a gwella eu diwylliannau sefydliadol. Roedd y cynnig yn sail i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, Hannah Blythyn AS.
Fe wnaeth yr Adolygiad lansio arolwg ar-lein a chyflwyniadau ysgrifenedig i glywed barn a phrofiadau bywyd holl staff presennol a chyn-staff a gyflogir ar ôl 1 Mehefin 2021.
Mae'r arolwg a chyfleoedd ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig a chyfweliadau / grwpiau ffocws bellach wedi cau.
Mae tîm yr Adolygiad yn ymgymryd â chyfweliadau a grwpiau ffocws pob gwasanaeth tân ac achub ar wahân er mwyn i'r un tîm allu canolbwyntio'n gyfartal ar bob gwasanaeth a sicrhau bod yr un faint o amser yn cael ei dreulio yn ymgysylltu â staff presennol a blaenorol yn y ddau faes. Mae hyn yn golygu y byddwn yn agor y datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cyfweliadau a grwpiau ffocws pob gwasanaeth ar wahân.
Mae diogelwch a lles staff presennol a chyn-aelodau o staff y gwasanaethau tân ac achub yn hollbwysid i’r Adolygiad, ac i’ch diogelu chi, bydd y data a geir drwy’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws yn cael ei gyflwyno yn ddienw/ffug yn yr adroddiad terfynol. Bydd gwybodaeth a rennir gyda ni yn aros yn gyfrinachol, oni bai caiff materion diogelu neu droseddol eu codi sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni rannu’r wybodaeth hon â thrydydd parti, megis yr heddlu.
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen gwefan yr Adolygiad yma: https://www.crestadvisory.com/adolygiad-diwylliannol-annibynnol Mae’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr Adolygiad, cysylltwch â'r tîm adolygu: frsculturereview@crestadvisory.com.