Dolgellau

Dolgellau
Gwynedd
LL40 1HA
- Ffôn: 01745 535 250
Manylion y criw
Mae Gorsaf Dân Dolgellau yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Ffin ogleddol yr ardal yw Bronaber, i lawr i Gorris, tua Rhydymain yn y dwyrain a Arthog a Bontddu yn y gorllewin hyd at y ffin ddeheuol yn Ninas Mawddwy.
Safleoedd o Risg:
Dim lleoliad penodol o risg yn Nolgellau ond rydym yn ymateb i nifer fawr o wrthdrawiadau ar y ffyrdd.
Hanes yr Orsaf:
Cafodd yr orsaf ei adeiladu yn 1975 ac agor yn 1976 gan O.G.Roberts. Mae Gorsaf Dân Dolgellau hefyd yn ardal hyfforddiant ar gyfer personel y Gwasanaeth Tân ac Achub ac yn darparu cyrsiau ar gyfer y diwydiant.
Roedd yr orsaf i gychwyn yn Lion Yard.
Gwaith yn y Gymuned:
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Chanolfan Gynghori Cymru safleoedd ar yr orsaf.
Mae'r orsaf wedi meithrin perthynas gadarn â'r gymuned leol ac mae nifer o fentrau lleol yn cael eu cynnal yno, yn cynnwys 'Clwb Cinio' misol i bensiynwyr a 'Cadw'n iach dros y gaeaf', sy'n rhoi cyfle i bobl gael pigiad ffliw a gwybodaeth am ddiogelwch dros y gaeaf.
Mae eu 'Gardd gymunedol' hefyd ar agor i grwpiau lleol megis y Brownis er mwyn iddynt gael profiad o arddio.
Cynhelir sesiynau 'Pass Plus' yn yr orsaf ddwywaith y flwyddyn.
Mae Gorsaf Dân Dolgellau hefyd yn cefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân ac yn cymryd rhan yn yr olchfa geir flynyddol.