Dinbych

DinbychLL16 3RG
- Ffôn: 01745 535 250
Manylion y Criw:
Mae Gorsaf Dân Dinbych yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
O Ddinbych i Fodfari, Afonwen, Llanrhaeadr a Threfnant a Mynydd Hiraethog.
Safleoedd o risg:
Ysbyty Gogledd Cymru, Hufenfa Llandyrnog, ysbytai lleol, Ystâd Ddiwydiannol Dinbych a'r goedwigaeth leol.
Hanes yr Orsaf:
Yn wreiddiol wedi ei leoli yn Neuadd y Dref, fe agorwyd yr orsaf bresennol gan Arolygydd Ei Mawrhydi yn 1972. Cyn uniad 1996, roedd Dinbych yn rhan o Wasanaeth Tân Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn.
Gwaith yn y gymuned:
Mae'r criwiau yn mynychu sioeau lleol yn flynyddol ac y mae Sir Ddinbych wedi bod yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Maent hefyd yn cymryd rhan yn y Diwrnodau Golchi Ceir Cenedlaethol i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.