Aberdyfi
Gorsaf Dân Aberdyfi
Cyfeiriad:
Rhes Bodfor
Aberdyfi
Gwynedd
LL35 0EA
Ffôn: 01745 535250
Manylion Criw:
Mae Gorsaf Dân Aberdyfi yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Ar hyd yr Afon Dyfi tuag at Gorris. Yn aml iawn mae Aberdyfi yn cael eu galw i ddigwyddiadau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru oherwydd bod yr orsaf mor agos i'r ffin rhwng Gwynedd a Phowys.
Safleoedd o Risg:
Gwestai, canolfannau gwyliau a ffyrdd gwledig, yn ogystal â nifer o ffermydd a choedwigoedd eang.
Hanes yr Orsaf:
Cafodd Gorsaf Dân Aberdyfi ei hagor ym 1898 fel rhan o Wasanaeth Tân Sir Feirionydd.
Roedd yr orsaf dân wreiddiol wedi ei lleoli y tu ôl i'r ysgol gynradd, ond symudodd i iard Joss Humphreys ar Copper Hill wedi i'r adeilad gael ei ddinistrio gan dân ym 1915. Adleoliwyd yr orsaf i'w lleoliad presennol ym 1967 a daeth yn rhan o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ym 1996.
Gwaith yn y Gymuned:
Mae criw Aberdyfi yn gweithio gyda'r gymuned leol yn rheolaidd drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau megis cynnal diwrnod agored blynyddol, trefnu arddangosfa dân gwyllt a chodi arian i elusennau lleol.
Yn ddiweddar fe gymrodd staff ran mewn taith feicio o Wolverhapton i Aberdyfi er mwyn codi arian i brynu peiriant ECG i Ysbyty Tywyn.