Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Beth yw data personol a pham mae ei angen arnoch?

Mae data personol yn cael ei ddiffinio fel "unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson naturiol dynodedig neu adnabyddadwy ('gwrthrych data') y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y data hwnnw.  Efallai y bydd angen eich data arnom er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau a chyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.  Rydym yn darparu mwy o fanylion am yr hyn sydd gennym a sut rydym yn trin y data hwn yn ein hysbysiadau preifatrwydd.

Hysbysiadau Preifatrwydd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parchu eich preifatrwydd ac yn cydymffurfio â GDPR y DU. Mae sut rydym yn cyflawni hyn yn cael ei ddarparu ar ein hysbysiad preifatrwydd y gallwch ddod o hyd iddo yma. Mae'r ddolen hon hefyd yn rhoi mynediad i'n hysbysiadau preifatrwydd eraill sy'n ymwneud â meysydd penodol o'n gwaith.

Cais Mynediad i wybodaeth bersonol

Mae gennych hawl i gael mynediad at gopi o'r data sydd gan GTAGC amdanoch chi.  Gelwir y cais hwn yn Gais Mynediad i wybodaeth bersonol.

At ddibenion diogelwch, byddwch yn ymwybodol, er mwyn derbyn eich gwybodaeth, y byddwn yn gofyn i chi ddarparu dau fath o adnabyddiaeth megis trwydded yrru, tystysgrif geni, pasbort neu gyfriflen banc.  Defnyddir hwn i gadarnhau pwy ydych chi ac i sicrhau ein bod yn ymateb i'r person cywir.

Os ydych am gyflwyno Cais Mynediad i wybodaeth bersonol i'r gwasanaeth, gallwch wneud hynny drwy gyflwyno ebost yma

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae'r Ddeddf yn creu hawl mynediad i'r cyhoedd ar gyfer gwybodaeth gofnodedig a gedwir gan y rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus. Mae'n gosod rhwymedigaethau ar awdurdodau, gan gynnwys GTAGC ac eithriadau ar gyfer pryd nad oes rhaid cyhoeddi ein gwybodaeth.

Yn amodol ar eithriadau, mae gennych hawliau sy'n gofyn i ni:

  • Eich cynghori'n ysgrifenedig a ydym yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ac yn ei darparu i chi os byddwn yn gwneud hynny
  • Ymateb i'ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith (ac eithrio gwyliau cyhoeddus y DU).

Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb gallwch ofyn am adolygiad mewnol lle byddwn yn ailystyried eich cais.  Os ydych yn parhau'n anfodlon mae gennych hawl i gyfeirio'ch cwyn at y Comisiynydd Gwybodaeth.  Mae manylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth ar waelod y dudalen hon.

Cynllun Cyhoeddi

Mae'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gael cynllun cyhoeddi.  Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n berthnasol i'r dosbarthiadau gwybodaeth fel mater o drefn. Mae hyn yn pennu'r math o wybodaeth y dylem ei rhannu.  Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data y gofynnir amdano fel rhan o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Pwrpas y cynllun yw galluogi'r cyhoedd i ddeall y wybodaeth sydd gennym a'i gwneud hi'n hawdd i chi gael mynediad at y wybodaeth honno.

Os oes ffi yn daladwy am y wybodaeth sydd ei hangen, bydd hyn yn cael ei gofnodi ar yr adran berthnasol.

Gallwch gael mynediad i'n cynllun cyhoeddi yma

Ein Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir ddinbych
LL 17 0JJ

E-bost:SDD@tangogleddcymru.llyw.cymru

Comisiynydd Gwybodaeth

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau a gellir cysylltu â nhw yn y ffyrdd canlynol:

Drwy'r post:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd gaer
SK9 5AF

Ar-lein yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen