Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adroddiad Adolygiad Annibynnol o Ddiwylliant a gyhoeddwyd gan Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru

Adroddiad Adolygiad Annibynnol o Ddiwylliant a gyhoeddwyd gan Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiadau terfynol o Adolygiad Annibynnol o Ddiwylliant a gomisiynwyd ar y cyd, a hwylusir gan Crest Advisory.

Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol yn ymrwymiad parhaus y gwasanaethau tân ac achub i feithrin diwylliant gweithle cefnogol, cynhwysol a blaengar.

Roedd yr adolygiad, a gychwynnwyd mewn ymateb i gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o gynigion gwella diwylliannol y gwasanaethau tân ac achub, yn asesu'r cynnydd a wnaed wrth greu amgylcheddau gweithle cadarnhaol a nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach.

Mae'n cynrychioli dechrau pennod newydd yn esblygiad diwylliannol Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Drwy weithredu'r argymhellion hyn, mae'r gwasanaethau tân ac achub yn ailddatgan eu hymroddiad i greu gweithle lle mae pob gweithiwr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u grymuso, ac i wella'r gwasanaethau a ddarperir i'w cymunedau.

Gallwch weld copi o'r adroddiad yma.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am yr adolygiad, y canfyddiadau a'r argymhellion allweddol a'r camau nesaf.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen