Achosion ac atebion posibl i osgoi galwadau diangen rhag Larwm Tân Awtomatig ( AFA ) Systemau
Achosion a ffyrdd o osgoi cam-rybuddion gan Systemau Larwm Tân Awtomatig (LTA)
Y mae nifer o gam-rybuddion yn digwydd o ganlyniad i weithgareddau sydd yn cael eu cwblhau ger synwyryddion tân, yn enwedig synwyryddion mwg. I osgoi cam-rybuddion, fe ddylech chi ystyried yr achosion cyffredin a ffyrdd o'u hosgoi a nodir isod a gwneud rhywbeth i'w hatal rhag digwydd ar eich safle.
- 1. Mwg coginio
Gwnewch yn siwr mai dim ond mewn lleoliadau dynodedig, sydd gan offer synhwyro addas (fel arfer gwres), y caniateir coginio. Defnyddiwch ffan echdynnu a chaewch y drysau rhwng yr ardaloedd coginio a'r synwyryddion er mwyn eu hatal rhag seinio rhybudd. Mae tostwyr fel arfer yn achosi cam-rybuddion ac fe ddylid ystyried ymhle y mae'n addas i'w defnyddio.
2. Stêm (o ystafelloedd cawod)
Gwnewch yn siwr bod digon o aer yn yr ystafell gawod a chadwch ddrysau i ystafelloedd gerllaw ynghau. Byddai o gymorth i westeion/staff pe byddech yn gosod arwyddion yn eu hatgoffa i gadw drysau ynghau a chymryd camau i leihau stêm yn yr ystafell.
- 3. Stêm (o ganlyniad i brosesau diwydiannol)
Gwenwch yn siwr eich bod yn gosod synhwyryddion addas; ceisiwch gyngor gan beiriannydd larymau cymwys.
4. Ysmygu (sigaréts)
Dim ond mewn lleoliadau dynodedig, sydd gan synwyryddion addas na fydd yn seinio pan fydd mwg sigaréts yn bresennol, y dylid caniatáu ysmygu. Ni ddylai'r larymau seinio pan fydd rhywun yn ysmygu oddi tanynt!
5. Aerosolau
Os yn bosibl, fe ddylech osgoi defnyddio aerosolau yn ymyl synwyryddion larymau tân. Os nad oes modd i chi osgoi hyn ystyriwch ddefnyddio cynhyrchion eraill. Yn aml iawn mae pethau fel diaroglyddion a chwistrellau gwallt yn achosi i synwyryddion mwg seinio.
6. Gwaith poeth/llychlyd
Ystyriwch osod gorchuddion dros dro i synwyryddion wrth i'r gwaith gael ei gwblhau. Dim ond staff awdurdodedig ddylai osod y gorchuddion a dylid eu tynnu yn syth wedi i'r gwaith gael ei gwblhau. Tra bydd y synwyryddion wedi eu gorchuddio, dylid briffio'r staff (yn cynnwys contractwyr) ynglyn â thorri gwydr y pwyntiau galw os byddant yn gweld tân. Fe all llwch hefyd atal synwyryddion rhag gweithio'n iawn yn y dyfodol. Mae'n bwysig eich bod yn cynllunio'n ofalus ar gyfer gwaith poeth a llychlyd.
7. Difrodi pwyntiau galw 'Torri'r Gwydr' yn ddamweiniol/ neu'n faleisus
Ystyriwch amddiffyn pwyntiau galw torri'r gwydr gyda gorchuddion addas rhag ofn iddynt gael eu difrodi'n ddamweiniol. Weithiau bydd yn rhaid i chi symud y pwynt glaw i fan addas rhag ofn iddo gael ei ddifrodi. Fe allwch eu hatal rhag cael eu difrodi'n faleisus drwy osod system CCTV.
8. Profi a Chynnal a Chadw
Os ydy'ch system yn cael ei monitro, rhowch wybod i'r ganolfan fonitro eich bod yn bwriadu profi a chynnal a chadw'r larwm cyn gwneud hynny a rhowch wybod iddynt unwaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau.
9. Newidiadau i ddyluniad yr adeilad neu'r defnydd a wneir ohono
Os bydd newidiadau ar y gweill fe ddylech adolygu'r asesiad risgiau tân i wneud yn siwr bod y system synhwyro tanau yn addas ar gyfer y defnydd a wneir o'r adeilad.
10. Synwyryddion diffygiol
Weithiau mae synwyryddion diffygiol yn gallu achosi i LTAau seinio rhybudd dro ar ôl tro. Fe ddylech ofyn i berson cymwys archwilio'r system larwm tân a gwneud gwaith adfer megis gosod synwyryddion newydd yn lle'r hen .
11. Gosod synwyryddion yn y mannau anghywir
Fe all larwm seinio rhybudd heb fod angen os defnyddir y synwyryddion anghywir. Fe ddylech ystyried symud synwyryddion sydd wedi eu gosod mewn mannau lle gall amgylchiadau amgylcheddol achosi iddynt seinio. Fe ddylai'r gwaith yma gael ei gwblhau gan berson cymwys. Er enghraifft synhwyrydd mwg sydd wedi ei osod mewn garej ceir lle byddai synhwyrydd gwers yn fwy addas.
Mae rhai o'r atebion uchod yn ymwneud â'r modd y mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio ac y mae modd i reolwyr eu datrys. Mae eraill yn dibynnu ar newid y system larwm tân.
Dim ond person neu gontractwr cymwys ddylai newid systemau larwm tân. Dylid gwneud newidiadau o'r fath ar ôl adolygu'r asesiad risgiau tân yng ngoleuni'r problemau neu'r newidiadau sydd wedi nodi. Dylid nodi unrhyw newidiadau i'r system larwm yn y llyfr log diogelwch tân a dylid cadw'r tystysgrifau addas ynddo hefyd.
Fe ddylai offer a gwasanaethau amddiffyn rhag tân fod yn addas i'r diben a dylid eu gosod yn iawn a'u cynnal a'u cadw yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr neu i'r safon berthnasol. Mae cynlluniau ardystio gan drydydd partïon ar gyfer offer amddiffyn rhag tân yn ffordd effeithiol iawn o roi sicrwydd a chynnig ansawdd a dibynadwyedd, yn wahanol i gynnyrch sydd heb eu hardystio.