![Crew of Firefighters standing in a line](/media/342549/website-banner-2.jpg)
Rydym yn recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru!
Bydd y porth ymgeisio ar agor o hanner dydd, Dydd Mercher, 17 Gorffennaf tan Ddydd Llun, 22 Gorffennaf
Cael gwybod mwy![Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024 - 2029](/media/342300/website-banner-9.jpg)
Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024 - 2029
Cael gwybod mwyCynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024 - 2029![Cyngor ar fod yn ddoeth i danau gwyllt](/media/342439/wildfirewise.jpg)
Cyngor ar fod yn ddoeth i danau gwyllt
Cael gwybod mwyCyngor ar fod yn ddoeth i danau gwylltRhowch bwyslais ar ddiogelwch yn yr heulwen!
Helo – Paul Kay ydw i, Rheolwr Diogelwch Tân.
Gan bod yr haf yn nesau a nifer o drigolion yn treulio mwy o amser yng nghefn gwlad neu’n ystyried tanio’u barbeciws a glanhau eu dodrefn gardd, dwi’n tynnu sylw at rai o’r peryglon sy’n gysylltiedig â rhai tanau cyffredin sy'n gallu digwydd yn ystod yr haf,
Fe all tanau ddinistrio aceri o dir yng nghefn gwlad
Yn ystod y tywydd poeth, mae’r glaswellt a’r tyfiant fel arfer yn sych, sy’n golygu y gallai tân sy’n cychwyn drwy ddamwain ddatblygu’n gyflym a dinistrio popeth o fewn cyrraedd.
Os bydd ychydig o awel hefyd, bydd y tân yn lledaenu hyd yn oed yn gyflymach.
Gall taflu sigarét allan o ffenestr car, barbeciw sy’n rhoi gwrych ar dân neu goelcerth sy’n cael ei gadael ddinistrio erwau o gefn gwlad, cnydau a bywyd gwyllt.
Tanau Bwriadol
Mae tanau bwriadol yng Nghymru yn peryglu’r amgylchedd, yr economi a’n cymunedau.
Cofiwch – mae cynnau tanau glaswellt bwriadol yn drosed ddifrifol a byddwn yn defnyddio holl rym y gyfraith i ddelio gyda hwy. Os welwch chi unrhyw un yn cynnau tân yn fwriadol, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu cysylltwch gyda Crime Stoppers ar 0800 555 111.
Peryglu Bywydau
Os bydd y tân yn cychwyn yn agosach at adref, gallai’r tân ddinistrio eich gardd, ymledu i’ch tŷ a pheryglu bywydau’r bobl sydd tu mewn.
Barbeciws
Gall barbeciws fod yn bleserus ond mae angen i chi ystyried diogelwch wrth goginio yn yr awyr agored – cadwch eich barbeciw yn ddigon pell o anifeiliaid anwes a phlant a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar y llwch mewn ffordd ddiogel.
Peidiwch ag yfed a choginio
Bydd nifer o bobl hefyd yn mwynhau diod neu ddau yn lleol neu yn yr ardd yn ystod y nosweithiau braf - rydw i hefyd yn eich annog i beidio â choginio ar ôl yfed alcohol, yn enwedig os byddwch yn llwglyd ar ôl dychwelyd ar ôl noson allan. Y ffordd orau o gael bwyd a chadw’n ddiogel yw prynu bwyd parod ar y ffordd adref neu gallech baratoi brechdan cyn mynd allan.
Am fwy o wybodaeth ar sut i fod yn ddoeth i danau gwyllt cliciwch yma.
Gallwch ddarllen mwy fan hyn am sut i aros yn ddiogel yn yr heulwen
![Cadwch yn ddiogel - cyngor diogelwch yn ystod tywydd garw](/media/340703/winter.jpg)
Cadwch yn ddiogel - cyngor diogelwch yn ystod tywydd garw
Cael gwybod mwyCadwch yn ddiogel - cyngor diogelwch yn ystod tywydd garwNewyddion diweddaraf
Cael gwybod mwy Cael gwybod mwy![Penodi arbenigwr i gynnal adolygiad diwylliannol annibynnol](/media/340292/image-1.png)
Postiwyd
Penodi arbenigwr i gynnal adolygiad diwylliannol annibynnol
Cael gwybod mwyPenodi arbenigwr i gynnal adolygiad diwylliannol annibynnol![Ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân llawn amser wedi’i lansio](/media/342550/ftc.jpg)
Postiwyd
Ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân llawn amser wedi’i lansio
Cael gwybod mwyYmgyrch recriwtio diffoddwyr tân llawn amser wedi’i lansio![Diweddariad: Tân ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug](/media/340292/image-1.png)
Postiwyd